Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllunio ar gyfer eich dyfodol: cynlluniau pontio

​Mae trosglwyddo o'r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gam pwysig i bob dysgwr. Os oes gan berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anabledd, bydd yn cael cefnogaeth i drosglwyddo o'r ysgol i addysg bellach. 

Beth sy'n digwydd ar ôl gadael yr ysgol? 


Bydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yng Nghymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anabledd yn mynd ymlaen i fynychu coleg neu raglen hyfforddi Addysg Bellach (AB). Mae colegau AB yn darparu ystod eang o gyrsiau i fodloni anghenion y dysgwr. 

Mae cymorth wedi'i deilwra ar gael i bob dysgwr sydd ag anawsterau dysgu neu anableddau. Gelwir hyn yn ddarpariaeth ddysgu gyffredinol, a allai gynnwys:

  • eistedd ym mlaen y dosbarth, 
  • egwyl symud,
  • argraffu taflenni gwaith ar bapur lliw, neu
  • gymorth un-i-un. 


Bydd angen Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar bob dysgwr sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol i'w helpu i drosglwyddo o'r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16. 

Mae CDU yn ddogfen gyfreithiol sy'n disgrifio anghenion dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, sy'n nodi'r cymorth sydd ei angen arno ac yn amlinellu unrhyw ganlyniadau yr hoffent eu cyflawni.  

Dewis coleg addas ar gyfer pobl ifanc ag ADY 


O flwyddyn 9 ymlaen, dylai plant a phobl ifanc ag ADY gael cyfle i drafod trosglwyddiadau’r dyfodol fel rhan o'u cyfarfod adolygu CDU blynyddol. Gall Gyrfa Cymru a staff coleg hefyd fynychu'r cyfarfodydd hyn i gynnig cefnogaeth. 

Bydd ysgolion a'r cyngor yn defnyddio'r cod ADY fel eu canllaw wrth helpu'r dysgwr i ddewis coleg sy'n bodloni ei anghenion orau. Mae'r Cod yn nodi, lle bynnag y bo modd, y dylai pobl ifanc allu mynychu eu haddysg a'u hyfforddiant ôl-16 yn lleol.  

Mewn rhai achosion, efallai na fydd dysgwr yn gallu cyflawni’r canlyniadau addysg a hyfforddiant y mae eisiau eu cyflawni yn lleol. Gallai hyn fod gan fod ei anghenion mor gymhleth fel nad oes darpariaeth leol briodol ar gael. Efallai y gall felly fynychu Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol (ISPI).


Gellir dod o hyd i fwy o arweiniad ar wefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd​. ​

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd