Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw ADY?

​Mae anghenion dysgu ychwanegol, y cyfeirir atynt yn aml fel 'ADY', yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau dysgu neu anableddau sy'n ei gwneud yn anoddach i blentyn ddysgu o'i gymharu â phlant o'r un oedran.

Mae gan tua un o bob pum dysgwr yng Nghymru anghenion dysgu ychwanegol (ADY)​.

Gall pob plentyn wynebu heriau gyda'i ddysgu. I'r rhan fwyaf o blant, mae'r anawsterau hyn yn cael eu goresgyn gyda chefnogaeth gan athrawon a gartref.  Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen help ychwanegol neu wahanol ar blant ag ADY i ddysgu.

Efallai y bydd gan rai plant ADY oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd. Efallai y bydd gan blant eraill ADY heb ddiagnosis neu anabledd.  Ni ystyrir bod gan blant ADY dim ond oherwydd nad Cymraeg neu Saesneg yw eu mamiaith.

Mae’r diffiniad o ADY yn debyg iawn i'r diffiniad cyfredol o anghenion addysgol arbennig.  Y gwahaniaeth mawr yw y gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed. 

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) (Cymru) 2018 (Rhan 2, Pennod 1) (Pennod 2 Cod ADY) yn dweud:  

Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.

Gall anghenion dysgu ychwanegol effeithio ar allu plentyn neu berson ifanc i ddysgu. Er enghraifft, gallai ADY rhywun effeithio ar ei:

  • ddarllen a’i ysgrifennu,
  • gallu i ddeall pethau,
  • ymddygiad neu ei allu i gymdeithasu a chyfathrebu,
  • lefelau canolbwyntio, a
  • gallu corfforol.

© 2022 Cyngor Caerdydd