Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Datrys anghytundebau, eirioli a'r tribiwnlys

​Gall plentyn, rhiant, gofalwr neu berson ifanc ofyn i'r Cyngor ailystyried penderfyniad a wnaed gan ysgol ynghylch anghenion y plentyn neu'r person ifanc.
Rhaid i'r Cyngor benderfynu a oes gan y plentyn neu'r person ifanc anghenion dysgu ychwanegol. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i'r Cyngor roi gwybod i'r ysgol am y cais a gofyn am fwy o wybodaeth ganddynt.  Os na fydd y Cyngor yn cytuno gyda phenderfyniad yr ysgol, gallwn roi cyfarwyddyd i’r ysgol ysgrifennu CDU.  

Os nad yw plentyn, rhiant, gofalwr, neu berson ifanc yn hapus gyda'r CDU, gall ofyn i'r Cyngor ailystyried y cynllun. Gall y Cyngor:

  • ddiwygio'r cynllun, 
  • dweud wrth yr ysgol am ddiwygio'r cynllun, neu 
  • gadarnhau bod y cynllun yn briodol.  


Os yw’r cynllun yn cael ei gynnal gan yr ysgol, gall plentyn, person ifanc, rhiant, gofalwr, neu'r ysgol hefyd ofyn i’r Cyngor gymryd cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.

Os penderfynwn na fyddwn yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal y cynllun, byddwn yn rhoi gwybod i bawb yr effeithir arnynt yn ysgrifenedig. 

Mae nifer o ffyrdd a all helpu i atal problemau neu gamddealltwriaeth rhag digwydd.

Siarad â'r ysgol 


Siaradwch â Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY) yr ysgol cyn gynted ag y bydd gennych bryderon. Rhannwch yr holl wybodaeth sydd gennych am eich plentyn gyda'r ysgol a’r gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig. Byddant: 

  • yn gwrando ac yn cymryd eich problem o ddifri,
  • yn eich cynnwys chi a'ch plentyn ac yn ystyried eich barn,
  • yn archwilio’r holl broblemau a phryderon, ac
  • yn casglu gwybodaeth ac yn cynllunio ffordd ymlaen gyda chi.

Swyddog a enwir o fewn yr awdurdod lleol - Llinell Gymorth a Chyngor ADY​


Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ysgol neu awdurdod lleol ar unrhyw beth sy'n ymwneud â darpariaeth neu leoliad ADY eich plentyn, dylech gysylltu â swyddog a enwir yng Ngwasanaeth Cynhwysiant y Cyngor.  Mae gennym swyddogion a enwir a fydd yn rhoi cyngor a chymorth ac a all helpu drwy gynnig y canlynol:

  • cyngor diduedd ar hawliau plentyn, rhiant neu berson ifanc,
  • cymorth i fynd at wraidd anawsterau a chynllunio ffordd ymlaen,
  • cyfarfodydd wyneb yn wyneb,
  • cymorth i fynychu a chyfrannu at gyfarfodydd, a 
  • chymorth parhaus os yw problemau'n anodd eu datrys. 

SNAP Cymru​


Mae SNAP Cymru yn rhoi cyngor annibynnol ac ymarferol i deuluoedd â phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall SNAP gynnig:

  • gwybodaeth ddiduedd,
  • cyngor a chymorth,
  • cymorth datrys anghytundebau a chyfryngu,  
  • eiriolaeth,
  • cyngor ar wahaniaethu, a
  • hyfforddiant i ofalwyr a gweithwyr proffesiynol.


Mae SNAP hefyd yn cynnig cyfryngu. Bydd cyfryngwr profiadol yn cyfarfod â’r rhieni neu’r gofalwyr a staff yr ysgol neu'r Cyngor. Nid yw’r cyfryngwr o blaid un ochr neu’r llall ond bydd yn gwrando ac yn cael gwybod am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd. Y nod yw dod o hyd i ateb ymarferol y gall pawb gytuno ag ef. 

I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â SNAP Cymru​. ​


© 2022 Cyngor Caerdydd