Ymarfer a Chyfranogiad Sy'n Canolbwyntio ar Unigolion (Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion)
Mae Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion yn ffordd o gydweithio a chyfathrebu'n gadarnhaol â'i gilydd, bob amser gyda'r plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y broses.
Bydd barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Mae Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o wahanol offer a dulliau i ddatblygu cynllun datblygu unigol (CDU) y plentyn neu berson ifanc.
Yr hyn i feddwl amdano
- Meddyliwch yn bositif – pa gryfderau sydd gan eich plentyn?
- Meddyliwch am eich plentyn yn yr ysgol a thu allan iddi.
- Beth yw eich nodau ar gyfer eich plentyn a beth sy'n bwysig iddo?
Beth i'w ddisgwyl
- Gwerthfawrogir barn pawb, gan fod pob un ohonom yn cael y cyfle i rannu ein meddyliau a'n teimladau.
- Dull hamddenol ac anffurfiol.
- Rydym yn gobeithio dysgu pethau newydd am beth mae'ch plentyn yn ei feddwl a'i deimlo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu gyda'n gilydd yn helpu i gynllunio ein camau nesaf.
- Mae ein trafodaethau yn cael eu cofnodi mewn ffordd weledol ac rydym i gyd yn deall sut y byddwn yn helpu i symud pethau ymlaen.
- Yn nes ymlaen, byddwn yn siarad gyda'n gilydd am sut mae'r cynllun yn gweithio.
Ymwelwch â Gwefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion.
Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Mae Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn cael ei greu drwy gydweithio â’r canlynol:
- y person ifanc neu’r
- plentyn a’r rhiant neu’r gofalwr, ac
- asiantaethau ehangach a allai fod yn rhan o'r broses fel gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y CDU yn nodi’r hyn sydd angen i'r plentyn neu'r person ifanc allu ei ddysgu. Bydd hefyd yn nodi:
- yr hyn sy'n bwysig i chi ac iddyn nhw,
- disgrifiad o'i anghenion dysgu ychwanegol, a’r
- hyn fydd yn cael ei wneud er mwyn iddo gael y cymorth priodol yn yr ysgol neu'r coleg a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen i ddiwallu ei anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu o leiaf bob deuddeg mis.
Gall CDU gael ei greu a'i oruchwylio gan ysgolion, colegau neu'r Cyngor. Waeth pwy sy'n cynnal y CDU, mae'n parhau’n ddogfen gyfreithiol a rhaid i'r ddarpariaeth y cytunwyd arni gael ei chyflawni yn ôl y gyfraith.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn cymryd lle’r holl gynlluniau sydd gennym nawr, gan gynnwys:
- Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA),
- Cynlluniau Addysg Unigol (CAUau) ar gyfer dysgwyr sy'n cael cymorth ar hyn o bryd drwy Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar / Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy / Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, a
- Chynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 oed sy'n mynychu'r coleg).
Ymwelwch â
Gwefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynlluniau Datblygu Unigol.