Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cael help gan yr ysgol

​​Y rhan fwyaf o'r amser gall anawsterau plentyn neu berson ifanc gael eu nodi a gall yr ysgol ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.  Mae pob ysgol a gynhelir yn cael arian gan y Cyngor ar gyfer yr holl blant sy'n ei mynychu, ac arian ychwanegol i helpu pobl sy'n cael trafferth dysgu.

Mae pob ysgol yn ystyried anghenion dysgu unigol ei disgyblion, a bydd yr athrawon yn cynnig cymorth ychwanegol, er enghraifft:

  • ychwanegu mwy o gamau at dasg,
  • awgrymiadau gweledol i helpu’r plant i drefnu eu hunain,
  • apiau i’r dysgwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain,
  • rhoi amser ychwanegol i gwblhau tasgau,
  • grwpiau dal i fyny neu waith grŵp bach gyda chymorth penodol ar gyfer mathemateg a llenyddiaeth, a
  • cymorth lles.


Bydd angen mwy o gymorth neu gymorth gwahanol ar rai plant i'r cymorth a roddir yn gyffredinol i bob plentyn.  

Mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddyletswyddau cyfreithiol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae gan feithrinfeydd, ysgolion a cholegau ddyletswyddau clir o dan Ddeddf ADYTA 2018 a Chod ADY Cymru 2021 (y cod). Mae'r cod yn cynnwys arweiniad ar yr hyn y dylent fod yn ei wneud i nodi a chefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

Yn y system ADY newydd, mae dyletswydd gan ysgolion i benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc anghenion dysgu ychwanegol ac i roi'r cymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i ddysgu. Mae'r cod ADY yn dweud bod yn rhaid i'r ysgol ystyried rhoi help os oes pryder am gynnydd y plentyn. 

Er mai athrawon yn aml yw'r bobl sy'n penderfynu bod plentyn angen rhywfaint o help, mae'r cod yn dweud bod unrhyw un sy'n adnabod y plentyn ac sy'n pryderu yn gallu rhoi gwybod i'r ysgol.  Mae hyn yn cydnabod bod gan rieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill wybodaeth hanfodol yn aml a all gadarnhau barn yr ysgol neu ychwanegu ati.

Mae'r cod ADY yn dweud y dylai ysgolion geisio nodi anhawster plentyn yn gynnar, fel bod y plentyn yn gallu cael y math iawn o help cyn gynted â phosibl. 

Rhaid i bob ysgol fod â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (Cydlynydd ADY) Yn unol â’r Ddeddf ADY mae bod â chydlynydd ADY mewn ysgol yn ofyniad cyfreithiol. Yn flaenorol, nid oedd cael cydlynydd anghenion addysgol arbennig (Cydlynydd AAA) yn ofyniad cyfreithiol.

Os nad yw eich plentyn yn gwneud digon o gynnydd yn yr ysgol, dylai'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd ADY siarad â chi am gael cyngor gan bobl eraill y tu allan i'r ysgol. Ar y cam hwn, gall yr ysgol ofyn am gyngor a chefnogaeth gan wasanaethau allanol, y rhai a ddarperir gan y Cyngor ac asiantaethau allanol (er enghraifft, Athro Arbenigol, Seicolegydd Addysg, Therapi Iaith a Lleferydd neu Weithwyr Iechyd Proffesiynol.

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd