Bydd dull graddol o ymdrin â'r newidiadau hyn yn cael ei gyflwyno dros 3 blynedd o fis Medi 2021.
Bydd cymorth anghenion addysgol arbennig (AAA) yn parhau i redeg tan 2024, pan fydd cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael ei fabwysiadu'n llawn.
Bydd awdurdodau lleol a lleoliadau ysgol yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr i sicrhau bod pawb yn deall y newidiadau.
Bydd teuluoedd yn gallu cael gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd. Bydd hyn yn un o ofynion cyfreithiol y newid.