Mae'r ffordd rydym yn cefnogi plant sy'n cael trafferth dysgu yn newid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo deddfwriaeth o'r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2018, a Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) 2021.
Bydd y rhain yn disodli'r holl ddeddfwriaeth ac arweiniad presennol ynghylch anghenion addysgol arbennig.
Mae’r prif newidiadau’n cynnwys:
- dod â'r holl systemau presennol ynghyd i greu system sengl newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol
- canolbwyntio’n fwy ar ddysgwyr
- rhoi'r un hawliau i ddysgwyr beth bynnag fo'u hoedran neu eu lleoliad
- gwella pontio rhwng lleoliadau, fel cynradd i uwchradd.
- darpariaeth Gymraeg pan fo angen
- bod yn system deg a thryloyw i bawb
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd plant a'u rhieni a phobl ifanc yn:
- cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynt
- cymryd mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau am eu bywydau a’r cymorth sydd ei angen arnynt
- gallu dod o hyd i wybodaeth yn haws
- cael cefnogaeth os ydynt yn anghytuno â phenderfyniadau
- gallu apelio yn erbyn penderfyniadau i'r tribiwnlys addysg
Bydd y system newydd hon yn diogelu hawliau pob plentyn, waeth beth yw ei anghenion dysgu ychwanegol.
Os oes gennych ddatganiad neu gynllun cyfredol
Efallai fod gan blant a phobl ifanc sydd wedi mynd trwy'r broses asesu AAA:
- gynllun addysg unigol (CAU),
- datganiad, neu
- gynllun dysgu a sgiliau.
Bydd anghenion llawer o'r plant a'r bobl ifanc hyn yn parhau i gael eu diwallu drwy arferion ystafell ddosbarth rheolaidd o safon uchel.
Bydd ychydig o blant a phobl ifanc sydd ag anhawster neu anabledd dysgu sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY).
Mae hon yn ddarpariaeth ychwanegol neu wahanol i'r hyn sydd ar gael yn gyffredinol i blant a phobl ifanc eraill o'r un oedran.
Bydd gan y plant a'r bobl ifanc hyn gynllun datblygu unigol (CDU).