Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol o 0 i 25 oed. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at addysg a hyfforddiant addas, gan gynnwys addysg orfodol ac addysg ôl-16 arbenigol lle bo angen. Rydym yn rhoi arian i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.
Bydd y rhan fwyaf o Gynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu datblygu gan ysgolion neu sefydliadau addysg bellach.
Gall rhieni, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc gysylltu â'r Cyngor os oes ganddynt bryderon. Gallant ofyn iddo benderfynu a oes gan y plentyn ADY a pharatoi CDU os:
- yw plentyn dan 5 oed a ddim mewn ysgol a gynhelir.
- yw plentyn neu berson ifanc yn un sy’n derbyn gofal.
- yw plentyn yn mynychu ysgol nad yw'n cael ei chefnogi'n ariannol gan y Cyngor.
- yw plentyn yn cael ei addysgu heblaw yn yr ysgol (AHY) neu â chofrestriad deuol. Mae cofrestriad deuol yn golygu pan fo disgybl wedi'i gofrestru mewn un ysgol a darpariaeth arall ar gyfer rhywfaint neu bob rhan o'i ddysgu.
- yw plentyn yn cael ei gadw yn gaeth. Er enghraifft, mewn sefydliad troseddwyr ifanc neu gartref plant diogel.
Fel Cyngor, rhaid i ni hefyd gynnig:
- Gwybodaeth a chyngor diduedd i blant, pobl ifanc a rhieni,
- Trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau sy'n annibynnol ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau (byddem yn penodi swyddog i weithio gyda’r rhieni a’r ysgol i ddatrys unrhyw faterion a allai ddigwydd),
- Mynediad i wasanaethau eiriolaeth annibynnol, a
- Swyddog arweiniol sy'n gallu cefnogi plentyn dan 5 oed i ddechrau'r ysgol.
Byddwn yn adolygu'r trefniadau a'r ddarpariaeth rydym yn eu cynnig yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn werth chweil ac yn effeithiol.
Ein dyletswydd i benderfynu ar ADY plentyn neu berson ifanc
Pan ddaw plentyn neu berson ifanc i sylw'r Cyngor, mae'n ddyletswydd arnom i benderfynu a oes ganddo anghenion dysgu ychwanegol.
Er enghraifft, byddem yn ystyried gwneud penderfyniad ynghylch plentyn neu berson ifanc:
- os yw wedi cael ei atgyfeirio gan gorff llywodraethu,
- os yw plentyn, rhiant neu berson ifanc wedi gwneud cais i'r Cyngor,
- os yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud atgyfeiriad (adran 64), neu
- os ydym wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan y Tribiwnlys Addysg.
Rhaid i ni wneud penderfyniad oni bai bod un o'r amgylchiadau canlynol yn berthnasol:
- mae cynllun datblygu unigol (CDU) eisoes yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc,
- rydym wedi penderfynu o'r blaen bod gan blentyn neu berson ifanc ADY ac nid yw'r anghenion hynny wedi newid ers gwneud penderfyniad, neu nid oes unrhyw wybodaeth newydd a fydd yn newid y penderfyniad,
- rydym yn fodlon bod y penderfyniad am ADY y plentyn neu'r person ifanc yn cael ei wneud gan yr ysgol neu'r sefydliad addysg bellach (adran 11(1)),
- mae'r penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc sy'n fyfyriwr mewn addysg bellach, neu
- mae'r penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc dros 16 oed nad yw'n cydsynio i'r penderfyniad sy’n cael ei wneud.