Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar

​​​Mae Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn gyfarfod amlasiantaethol lle mae gweithwyr proffesiynol o feysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i fonitro ac adolygu plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau. 

Mae'r Panel yn cyfarfod yn wythnosol i drafod plant sy'n cael eu hatgyfeirio ac i gytuno ar y ffordd orau ymlaen.

Mae’n bosibl y caiff plentyn ei atgyfeirio at Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar pan fo gweithiwr proffesiynol neu riant neu ofalwr yn pryderu y gall fod anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd ar y plentyn sy'n ei rwystro rhag manteisio ar yr un cyfleoedd â phlant o’r un oedran. 

Pwy all wneud atgyfeiriad? 


Gall unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n ymwneud â'r plentyn wneud Atgyfeiriad Blynyddoedd Cynnar. Bydd y panel ond yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer plant:

  • 0 i 5 oed,  
  • sy’n byw yng Nghaerdydd, ac 
  • sydd ddim eto’n mynychu addysg brif ffrwd. 


Dylid trafod yr atgyfeiriad gyda chi, a dylech gael y cyfle i fynegi eich barn.

Bydd Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn cyfarfod i drafod yr atgyfeiriad ac unrhyw wybodaeth ategol arall.  Bydd y panel yn ystyried anghenion eich plentyn ac yn cytuno ar y ffordd orau ymlaen. Gall hyn gynnwys atgyfeirio at wasanaethau neu weithwyr proffesiynol eraill i gael cymorth ac arweiniad pellach.

Beth sy’n digwydd nesaf?


Rhaid i'r panel wneud penderfyniad o fewn 12 wythnos. Unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud, anfonir llythyr atoch yn amlinellu unrhyw ganlyniadau neu weithredoedd gan Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar. Ym mhob achos, bydd aelod o’r Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar yn cysylltu â chi i egluro'r canlyniadau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. 

Os oes gan eich plentyn ADY


Os penderfynir bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), efallai y bydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) arno. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei nodi mewn Cynllun Datblygu Unigol (CDU)​.  

Mewn rhai achosion, gall y Panel gytuno y bydd angen adnoddau ychwanegol ar y lleoliad y mae eich plentyn yn ei fynychu ar hyn o bryd, neu y bydd yn ei fynychu yn y dyfodol, i helpu'ch plentyn i gael mynediad i'w gyfleoedd chwarae a dysgu.

Dylech fod yn rhan lawn o’r gwaith o baratoi'r CDU. Mae'r gyfraith yn dweud bod gennych yr hawl i:

  • rannu eich barn ar anghenion eich plentyn, a
  • lle y bo'n bosibl, gael eich barn wedi’i hystyried


Ar ôl cwblhau'r CDU, dylech gael cyfle i wneud sylwadau ar ddrafft a mynegi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl.  Dylai'r cyngor ystyried unrhyw bryderon a chymryd camau priodol. 

Ar ôl ei baratoi, rhaid i'r cyngor roi copi o'r CDU i chi.

Dysgwch fwy am y prosesau ADY.​

Os nad oes gan eich plentyn ADY


Os bydd Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar yn penderfynu nad oes gan eich plentyn ADY, byddant yn ysgrifennu atoch ac yn esbonio'r rheswm dros eu penderfyniad. 

Bydd y llythyr hysbysu yn cynnwys: 

  • manylion cyswllt y cyngor, 
  • manylion am sut i gael gafael ar wybodaeth a chyngor ar ADY a'r system ADY, 
  • manylion unrhyw gamau y bydd y cyngor yn eu cymryd i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu bodloni, hyd yn oed os nad oes ganddo ADY,
  • cyngor ar osgoi a datrys anghytundebau, a
  • gwybodaeth am eich hawl i apelio i'r Tribiwnlys.


Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad, dylech siarad â'r cyngor cyn gynted â phosibl i drafod y penderfyniad. Mae terfyn amser o 8 wythnos i wneud apêl, ond caiff hyn ei ymestyn 8 wythnos arall os defnyddiwch y llwybr datrys anghydfodau.

Gallwch gysylltu â SNAP Cymru ar 0808 801 0608 i gael cyngor a chymorth annibynnol ar ddatrys anghydfodau.  

Os na allwch ddatrys eich anghydfod, gallwch wneud apêl i Dribiwnlys Addysg Cymru​ a gofyn iddyn nhw ystyried y penderfyniad.




© 2022 Cyngor Caerdydd