Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cael help yn y blynyddoedd cynnar (genedigaeth i 5 oed)

​​​​Mae darparwyr gofal blynyddoedd cynnar wedi ymrwymo i sicrhau bod plant yn ddiogel, yn iach, ac yn dysgu ac yn datblygu'n dda. Mae darparwyr yn defnyddio dulliau cefnogol ac ymatebion graddedig i sicrhau cyfleoedd cyfartal i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae ymatebion graddedig yn gynlluniau sydd wedi'u teilwra i anghenion eich plentyn i gefnogi ei ddatblygiad. Maent yn cael eu diweddaru ar sail cynllunio, gwneud, asesu ac adolygu.   

Mae Cenhadaeth 2030 Awdurdod Lleol Caerdydd​ yn nodi ein targed yn glir, sef bod ‘pob plentyn yn gallu cael mynediad at addysg a dysg o safon uchel, o’r blynyddoedd cynnar i ôl-16, sy’n bodloni ei anghenion unigol ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a’i ddoniau’n llawn’. 

Mae yna lawer o wahanol fathau o ddarpariaeth gofal plant a meithrinfeydd megis gwarchodwyr plant, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd annibynnol a meithrinfeydd a gynhelir ynghlwm wrth ysgolion.  

Mae pob plentyn yn datblygu'n wahanol. Mae ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar yn brofiadol o ran arsylwi a chasglu gwybodaeth bwysig am y plentyn.  Nod ymarferwyr yw lleihau rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol i gynhwysiant. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i bob plentyn gyflawni ei lawn botensial wrth baratoi at ddysgu pellach a bywyd.  

Bydd ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar yn monitro cynnydd eich plentyn wrth iddo ddatblygu a thyfu.  Dylai'r broses hon nodi cryfderau'r plentyn ac unrhyw feysydd lle nad yw ei gynnydd yn ôl y disgwyl. 

Mae lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu diwallu gan ddefnyddio eu harbenigedd, eu hyfforddiant a'u gwybodaeth.  Dylai lleoliadau fod yn gynhwysol a'u nod yw chwalu rhwystrau posibl a allai atal datblygiad neu ddysg.   

Os codir unrhyw bryderon, dylid gwneud pob ymdrech i ddiwallu'r anghenion hynny o fewn y ddarpariaeth bresennol. 

Beth os ydych chi’n poeni am ddatblygiad eich plentyn?


Os oes gennych unrhyw bryderon am ddatblygiad neu gynnydd eich plentyn, trafodwch hyn gyda'r darparwyr gofal neu'r ymwelydd iechyd.  Gall y darparwr drafod yr hyn sydd ganddo ar gyfer eich plentyn a sut y mae'n diwallu ei anghenion.

Os yw cynnydd eich plentyn yn arafach nag eraill, nid yw'n golygu bod ganddo anghenion dysgu ychwanegol. Efallai y bydd angen cyflwyno cyfleoedd gwahanol iddo neu ddefnyddio dulliau amgen. Os bydd anawsterau eich plentyn yn parhau, gallai hyn ddangos bod ganddo anghenion ychwanegol sy'n gofyn am lefel o gymorth sydd ddim ar gael gyda'r darparwr presennol.

Mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i benderfynu a oes gan blentyn ADY ac i baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer unrhyw blentyn ag ADY. 


Os oes gan eich plentyn anghenion dysgu cymhleth


Efallai y bydd gan rai plant anghenion sylweddol, cymhleth, gydol oes na ellir darparu ar eu cyfer o fewn rhai lleoliadau blynyddoedd cynnar. Mewn rhai achosion, bydd angen darpariaeth ychwanegol ar leoliad blynyddoedd cynnar er mwyn cefnogi dysgu'ch plentyn.  Os mai dyma’r achos, bydd angen i'r lleoliad neu weithiwr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn wneud atgyfeiriad i Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar

Grŵp amlasiantaethol yw Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar sy'n monitro ac adolygu plant ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018​.

Mae'n bosibl bod rhai plant ag anghenion gydol oes, sylweddol neu gymhleth eisoes wedi cael eu nodi fel rhai ag angen dysgu ychwanegol neu anabledd.  Bydd Fforwm y Blynyddoedd Cynnar neu’r Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar eisoes yn adnabod y plant hyn, wedi cynllunio darpariaeth briodol, a byddant yn parhau i fonitro ac adolygu eu hanghenion. 

Anghenion gofal iechyd


Efallai y bydd gan rai plant sy'n mynychu lleoliadau angen meddygol neu gorfforol a nodwyd sy'n gofyn am gynllun a hyfforddiant penodol. Er enghraifft: 

  • plant â diabetes, 
  • alergeddau difrifol, 
  • bwydo enterig neu 
  • barlys yr ymennydd. 


Dylai cynlluniau a hyfforddiant priodol fod ar waith cyn i'r plentyn fynychu lleoliad.  Dysgwch fwy am sut rydym yn cefnogi plant ag anghenion meddygol neu gorfforol​

Beth sy'n digwydd pan fydd eich plentyn yn symud i ysgol


Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu Unigol (CDU), gall y cyngor ddweud wrth yr ysgol am gynnal y CDU. Dylid cofnodi'r holl drefniadau pontio yn adran 3C o'r CDU. 

Dylech drefnu i ymweld â'r ysgol i roi cyfle i chi gwrdd â'r staff addysgu ac ystyried sut y byddant yn ymateb i anghenion dysgu a datblygu eich plentyn.  Bydd gan yr ysgol ddarlun llawnach o anghenion eich plentyn cyn iddo ddechrau.

Fodd bynnag, ni ddylai'r ysgol gynnal y CDU os yw'n cynnwys darpariaeth y dylai'r cyngor ei darparu.  Er enghraifft, os yw'r CDU yn disgrifio:

  • lle mewn lleoliad penodol sy'n cynnwys bwyd a llety - gallai fod yn ysgol breswyl,
  • os yw’r plentyn wedi'i gofrestru'n ddeuol, neu
  • mae'r plentyn wedi dechrau derbyn gofal.


© 2022 Cyngor Caerdydd