Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Addysg

​​​​​​Cynghorydd Merry


Credwn yn gryf mai addysg dda yw’r llwybr mwyaf sicr allan o dlodi, ac, yn ei dro, fod ffyniant hirdymor y ddinas yn dibynnu arnom yn cefnogi ein plant a’n pobl ifanc i wireddu eu potensial. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i wneud pob ysgol yng Nghaerdydd yn ysgol dda, lle gall pob plentyn gael addysg wych.

Byddwn yn parhau â’n rhaglen fuddsoddi mewn adeiladau ysgol newydd ac adeiladau sy’n bod eisoes, yn parhau i wella cyrhaeddiad addysgol, ac yn cyflawni ein hymrwymiad i roi barn plant a phobl ifanc wrth wraidd ein hagenda bolisi drwy ddod y ddinas gyntaf yng ngwledydd Prydain i ennill statws Dinas sy’n Dda i Blant.

​​Wrth wneud hynny, byddwn yn rhoi ffocws penodol ar gefnogi ein plant mwyaf agored i niwed, o’u cefnogi hwy a’u teuluoedd yn eu blynyddoedd cynnar drwy’r ysgol i fyd gwaith ac addysg uwch.

Byddwn yn:

  • Sicrhau statws Dinas Sy’n Dda i Blant UNICEF erbyn diwedd 2022.
  • Cefnogi pob ysgol yng Nghaerdydd i fod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau erbyn 2025.
  • Sefydlu panel dinasyddion pobl ifanc er mwyn sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed wrth wneud penderfyniadau’r Cyngor.
  • Gosod gweledigaeth a strategaeth newydd ar gyfer addysg yng Nghaerdydd drwy adnewyddu strategaeth Caerdydd 2030.
  • Cefnogi pob ysgol i fod yn barod i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
  • Cau’r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer ein dysgwyr mwyaf agored i niwed, gan ganolbwyntio’n benodol ar blant mewn gofal, y rhai sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol a phlant o’r cymunedau mwyaf difreintiedig.
  • Cefnogi ysgolion i wella presenoldeb disgyblion yn dilyn pandemig Covid-19, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus.
  • Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn barod ac yn gallu darparu Prydau Ysgol am Ddim i bob plentyn.
  • Agor campws newydd ar gyfer ysgolion Willows, Cathays, Cantonian, Fitzalan, ac Ysgol Uwchradd Caerdydd drwy ‘Fand B’ rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
  • Agor hyd at wyth ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd erbyn 2030, wedi’u hariannu drwy’r Cynllun Datblygu Lleol.
  • Darparu cyllid ychwanegol i gefnogi gwaith cynnal a chadw mewn ysgolion nad ydynt yn dod o fewn y Bandiau A-C.
  • Buddsoddi mewn seilwaith digidol, offer a thechnolegau dysgu newydd ar gyfer ysgolion – gan anelu at gymhareb dyfeisiau TGCh fesul disgybl o 1:1.
  • Hyrwyddo manteision dwyieithrwydd, gan gynyddu’r nifer sy’n manteisio ar addysg Gymraeg yn unol â Chymraeg 2050.
  • Datblygu rhaglen Ysgolion Bro fel bod y cyfleusterau rhagorol sydd ar gael mewn ysgolion ar gael i’r gymuned ehangach.
  • Ehangu a gwella Addewid Caerdydd, recriwtio cyflogwyr newydd, a chynnig ffyrdd newydd i ddisgyblion ysgol ymgysylltu â byd gwaith sy’n newid yn gyflym.
  • Ymwreiddio’r Bartneriaeth Dechrau’n Dda ymhellach, sef ymagwedd ysgol gyfan ac amlasiantaethol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, o gefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl.
  • Gweithredu argymhellion Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd, gan gynnwys:

    - Cefnogi’r gwaith o gynyddu amrywiaeth y gweithlu addysgu drwy raglen ‘Camu i Addysgu’ ar gyfer cynorthwywyr addysgu
    - Cynyddu cynrychiolaeth trigolion o leiafrifoedd ethnig mewn timau arwain ysgolion drwy raglen fynediad Llywodraethwyr Ysgol
    - Cryfhau’r ffyrdd yr ymdrinnir â bwlio a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â rhagfarn yn yr ysgo
    - Ymestyn gwaith Ysgolion Noddfa i rwydwaith ehangach o ysgolion a chefnogi cyfranogiad cymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches.


  • Rhoi Dull Gweithredu Ysgol Gyfan ar waith i atal trais a cham-drin ar sail rhywedd mewn lleoliadau addysg a lleoliadau ieuenctid eraill.
  • Cynyddu maint y rhaglen ‘Pasbort i’r Ddinas’ er mwyn sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu mwynhau’r amwynderau o’r radd flaenaf sydd gan Gaerdydd i’w cynnig.
  • Cryfhau’r cymorth sydd ar gael yn ystod y gwyliau, gan gynnwys drwy ailadrodd y rhaglen Gwên o Haf a thyfu’r Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau’r Ysgol.
​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd