Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad

​​​​​​​​Cynghorydd Weaver

Mae dinasoedd llwyddiannus, gyda chymunedau iach, diogel a hyderus, wedi’u hadeiladu ar sylfaen gadarn gwasanaethau cyhoeddus rhagorol. Fel Cyngor, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn ac ar gyflawni perfformiad da, gan sicrhau bod trigolion yn cael y profiad gorau posibl pan fyddant yn defnyddio ein gwasanaethau.

Roedd pandemig Covid-19 yn gyfnod o her fawr ac o arloesi mawr yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Roedd cymhlethdod y materion yr oeddem yn mynd i’r afael â hwy yn ymestyn ar draws ffiniau gwasanaethau a sefydliadau. Roedd angen i arbenigwyr technegol a rheolwyr, o amryfal ddisgyblaethau yn gweithio mewn amrywiaeth o sefydliadau, gydweithio i ddatrys problemau bob dydd, gan ddefnyddio technolegau digidol yn aml mewn ffyrdd newydd. Byddwn yn cario’r diwylliant arloesi hwn ymlaen i’r gwaith o adfer ac adnewyddu, gyda thechnolegau digidol, sgiliau ac arweinyddiaeth yn cael eu dwyn i’r amlwg.

Byddwn hefyd yn parhau i ddefnyddio graddfa a maint llawn y Cyngor fel grym er lles cymdeithasol ac amgylcheddol, gan bennu’r safonau i bob sefydliad arall eu dilyn. Bydd hyn yn golygu gwneud y mwyaf o effaith gymdeithasol ein gwariant, cyflymu’r symudiad i sero net ac arwain y ffordd fel cyflogwr ‘Gwaith Teg’.

Byddwn yn:

  • Adeiladu ar newid ac arloesi’r ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn parhau i foderneiddio’r ffordd y mae’r Cyngor yn gweithredu.
  • Cau’r bwlch yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf a chefnogi gwasanaethau y mae effaith hirdymor Covid yn amharu arnynt er mwyn addasu i ffyrdd cynaliadwy newydd o weithio. Mabwysiadu gweithio hybrid fel rhan o’n busnes beunyddiol ar draws pob rhan o’r Cyngor, gan ddarparu gwasanaeth mwy ymatebol a hyblyg i staff a dinasyddion wrth leihau costau asedau, ynni a thrafnidiaeth y Cyngor.
  • Rhoi ffocws o’r newydd ar brofiad dinasyddion o’n gwasanaethau o ran cynllunio a pherfformiad ein gwasanaethau, a gosod safonau uchel ar gyfer gofal cwsmeriaid ar draws holl adrannau’r Cyngor.
  • Cynyddu nifer gwasanaethau’r Cyngor sydd ar gael i ddinasyddion drwy lwyfannau digidol a, lle bo’n briodol, sicrhau bod atebion digidol ac awtomeiddio yn cael eu defnyddio i roi gwasanaethau digidol ‘o’r dechrau i’r diwedd’.
  • Cyflawni Strategaeth Ddata’r Cyngor, gan wneud y defnydd gorau o ddata’r Cyngor i gefnogi gwella perfformiad, datrys problemau a gwella’r broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Parhau i hyrwyddo’r Cyflog Byw Go Iawn ar draws pob sector a chyflogwr, gan gynyddu nifer y cyflogwyr cyflog byw achrededig yn y ddinas.
  • Sicrhau bod Cyngor Caerdydd yn gyflogwr ‘Gwaith Teg’ a lleihau ein defnydd o staff asiantaeth ymhellach drwy eu trosglwyddo i gontractau parhaol.
  • Cyflawni argymhellion y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol, cefnogi llwybrau dilyniant gyrfa ar gyfer gweithwyr o leiafrifoedd ethnig a sicrhau bod gweithlu cynhwysol ac ymgysylltiedig gennym sy’n adlewyrchu amrywiaeth fawr cymunedau Caerdydd.
  • Datgarboneiddio cadwyni cyflenwi’r Cyngor drwy adolygu’r carbon a fewnforir drwy ein rhaglen gaffael.
  • Cryfhau ein Strategaeth Gaffael sy’n Gyfrifol yn Gymdeithasol i sicrhau bod y Cyngor yn gwario’n lleol ac yn fwy hygyrch i BBaChau (Busnesau Bach a Chanolig), tra’n creu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth newydd.
  • Defnyddio ein grym prynu i hybu hawliau gweithwyr a gwella safonau amgylcheddol.
  • Cefnogi lles staff, gan roi pwyslais penodol ar gefnogi iechyd meddwl staff.
​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd