Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Gwasanaethau Cymdeithasol

​​​​​​​Cynghorydd Mackie a Cynghorydd Lister
Ein huchelgais yw i Gaerdydd fod yn lle y gall pawb ddechrau’n dda, byw’n dda a heneiddio’n dda, a bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o wireddu hyn. Byddwn yn sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i dyfu’n hŷn. Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i fywyd y ddinas a byddwn yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i’w helpu i gadw’n heini ac yn gysylltiedig â’u cymuned ac i gefnogi eu lles corfforol a meddyliol parhaus. I’r rhai sydd, yn anffodus, yn dioddef iechyd gwael, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i aros yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain – a’r tu allan i’r ysbyty neu leoliad gofal – cyhyd ag y bo modd.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i wella dyfnder a chyrhaeddiad ein gwasanaethau iechyd meddwl, ac yn hollbwysig, yn ceisio buddsoddi mewn lefel uwch o gymorth cynnar a chwnsela i atal, nid ymateb i argyfyngau. Byddwn yn cefnogi’r rheini sydd ag anableddau dysgu a’u gofalwyr drwy sicrhau bod ein gwasanaethau dydd lleol a’n cymorth seibiant yn diwallu eu hanghenion yn llawn. Er mwyn gwneud hyn i gyd, bydd angen parhau â’r gwaith partneriaeth agosach fyth gyda’r Bwrdd Iechyd Prifysgol, gyda darparwyr gofal, gyda chymdeithas ddinesig a’r rhai sy’n derbyn gofal. Ac, yn anad dim, bydd angen buddsoddi, dathlu a gwerthfawrogi ein gweithlu gofal cymdeithasol diflino, sy’n llawn tosturi ac ymroddiad.

Dylai Caerdydd fod yn lle gwych i bob plentyn cael ei fagu, yn ddieithriad. Yn anffodus, nid yw hyn yn wir ar hyn o bryd. Mae gormod o blant a theuluoedd yn ein dinas yn byw mewn tlodi ac mae nifer y plant sy’n dod i dderbyn gofal yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Helpu teuluoedd i aros gyda’i gilydd fydd ein blaenoriaeth gyntaf oherwydd fe wyddom fod canlyniadau plant orau pan gânt eu cefnogi i dyfu o fewn eu teuluoedd eu hunain. Pan fydd angen ein gofal ar blant, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cadw gyda’u teuluoedd ehangach ac mor agos i’w cartrefi â phosibl. Unwaith eto, gwyddom fod hyn yn arwain at well canlyniadau i blant a phobl ifanc, ac mae’n ddull llawer mwy cost-effeithiol, gan sicrhau bod yr adnodd sydd gennym yn mynd i’r lle sydd ei angen fwyaf - cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd.

Byddwn yn parhau â’n gwaith gyda phartneriaid i wella’r gwasanaethau i’r plant hynny sydd yn neu sydd wedi dod i mewn i’r system cyfiawnder ieuenctid, gan leihau nifer y plant sy’n dod i mewn i’r system a’r rhai sy’n aildroseddu. Wrth wraidd ein gwaith y mae’r ffaith mai plant yw’r rhain yn gyntaf, a dim ond yn eilbeth yw eu bod yn blant sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid. Rwyf wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â’r holl bobl yn y ddinas - ein gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr ieuenctid, nyrsys, meddygon a swyddogion yr heddlu - sy’n gweithio bob dydd gyda phlant a phobl ifanc, yn enwedig y plant hynny sydd fwyaf agored i niwed, er mwyn helpu i wneud Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu.

​​

​​

Byddwn yn:

  • Rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a theuluoedd drwy ein Rhaglen Cymorth Cynnar.
  • Gweithio i gadw plant yn ddiogel gyda’u teuluoedd, gan gefnogi eu hanghenion twf a datblygiad a helpu i atal yr angen am ofal.
  • Cynyddu nifer y plant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu lleoli gyda’u teuluoedd neu eu cymuned ehangach, a lleihau nifer y plant sy’n cael eu lleoli mewn lleoliadau gofal preswyl drud, y tu allan i’r sir.
  • Cynyddu nifer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol a lleihau ein dibyniaeth ar leoliadau asiantaethau maethu annibynnol.
  • Parhau i ddatblygu a sefydlu dull ardal o ddarparu gwasanaethau ar draws timau rheoli achosion.
  • Dathlu gwaith gweithwyr cymdeithasol ein plant a hyrwyddo gwaith cymdeithasol fel gyrfa wych.
  • Parhau i ddatblygu a chefnogi gweithlu’r Gwasanaethau Plant, gan recriwtio a chadw mwy o weithwyr cymdeithasol yng Nghaerdydd.
  • Gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r farchnad gofal cymdeithasol i blant, gwella ansawdd a chael gwared ar elw o ofalu am blant.​
  • Gweithio gydag ysgolion a’r gwasanaeth iechyd i ddarparu dull gwell a chydgysylltiedig – o gwnsela mewn ysgolion i gymorth argyfwng – ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael.
  • Cwblhau’r gwaith o gyflawni cynllun datblygu ‘Ein Dyfodol Ni i Gyd’ a gosod strategaeth newydd ar gyfer parhau i wella’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
  • Amddiffyn pobl ifanc sy’n agored i niwed rhag cael eu hecsbloetio a mynd i’r afael â’r cynnydd diweddar mewn trais difrifol gan bobl ifanc drwy ddatblygu dull cadarn, integredig sy’n
    cael ei arwain gan ddata ar draws y Cyngor a gwasanaethau partner sy’n gweithio gyda phobl ifanc.
  • Enable all young people who are known to Children’s Services to be empowered to play an active and central role in planning for their transition to adulthood.
  • Use the information, intelligence and data w
  • Cyflawni Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2021-24 i sicrhau bod plant yn ein gofal yn ddiogel, yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, bod ganddynt ddyheadau uchel, eu bod yn gallu mynegi eu barn ac yn barod i fyw’n annibynnol.
  • Grymuso’r holl bobl ifanc sy’n hysbys i’r Gwasanaethau Plant i chwarae rôl actif a chanolog yn y gwaith o gynllunio at ddod yn oedolyn.
  • Defnyddio’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r data sydd gennym ar draws y Cyngor a’r gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu ‘Un Golwg’ o’r cysylltiadau sydd gan bob plentyn neu berson ifanc â’n ​gwasanaethau.
Byddwn yn:

  • Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Bobl Hŷn lle gallant fwynhau pob agwedd ar fywyd a pharhau i chwarae rhan werthfawr a gweithgar.
  • Hyrwyddo a dathlu Caerdydd yn dod y Ddinas gyntaf yng Nghymru i ymuno â Rhwydwaith Bydeang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd sy’n Dda i Bobl Hŷn, a gweithio ar draws y Cyngor a Gwasanaethau Partner i gyflawni’r cynllun gweithredu ar gyfer gwneud rhywle’n lle gwych i dyfu’n hŷn.
  • Sicrhau bod systemau Diogelu Oedolion effeithiol ar waith ledled y ddinas.
  • Adeiladu cymunedau cadarn a bywiog, gan roi cyfleoedd i bawb gymryd rhan, gwirfoddoli a chefnogi eraill i gadw mewn cysylltiad.
  • Creu dinas sy’n agored ac yn hygyrch i bawb, a gweithio tuag at greu system drafnidiaeth y mae hyder gan bawb i’w defnyddio.
  • Parhau i weithio tuag at ddod yn Ddinas sy’n Deall Dementia sy’n helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd i ffynnu.
  • Gwrando ar leisiau pobl hŷn, gan ddarparu’r cymorth cywir ar yr adeg iawn i’w cefnogi i fyw’n annibynnol gartref a bod yn weithgar yn eu cymunedau cyhyd ag y bo modd, gan gynnwys defnyddio technoleg, cymhorthion ac addasiadau.
  • Gwella mynediad at wasanaethau cymorth a lles cynnar i bobl sy’n dioddef o les meddyliol gwael, gan nodi’r rhai sydd angen help a darparu ystod eang o gymorth i atal argyfwng.
  • Cefnogi’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl sylweddol i adennill eu hyder ac ailadeiladu eu bywydau, gan wella’r gwasanaethau presennol a defnyddio arfer gorau o lefydd eraill i adnabod a datblygu’r cymorth sydd ei angen.
  • Cefnogi pobl ag anableddau dysgu i fyw mor annibynnol â phosibl ac i ymgysylltu â’u cymunedau, drwy ddatblygu amrywiaeth o opsiynau llety a chymorth lleol, gan hefyd gefnogi eu gofalwyr drwy ehangu ein gwasanaethau dydd anghenion cymhleth a’n darpariaeth seibiant dros nos.
  • Gwella ymwybyddiaeth a datblygu gwasanaethau ymhellach ar gyfer pobl ag awtistiaeth, gan sicrhau bod cymorth priodol ar gael wedi’i deilwra i anghenion unigol.
  • Cefnogi pobl ifanc â phrofiad o ofal wrth iddynt symud i fod yn oedolion, gan wella ein gwasanaethau fel rhiant corfforaethol i’w cefnogi i gyrraedd eu potensial yn llawn.
  • Gwrando ar ofalwyr di-dâl a theuluoedd i roi’r cymorth sydd ei angen arnynt yn well.
  • Dathlu a chefnogi’r gweithlu Gofal Cymdeithasol, gan gydnabod gwerth y gwaith a wnânt a sicrhau bod y ffordd rydym yn comisiynu gwasanaethau yn rhoi cyfleoedd ar gyfer boddhad swyddi a datblygu gyrfa.
  • Datblygu’r Academi Gofalwyr Caerdydd lwyddiannus ymhellach i feithrin gallu yn y sector gofal.
  • Parhau i symud tuag at fodelau gweithio ardal i ddwyn gwasanaethau amlddisgyblaethol sydd wedi’u lleoli mewn cymunedau lleol ynghyd i hybu iechyd a lles, cefnogi annibyniaeth ac atal derbyniadau diangen i’r ysbyty.
  • Gweithio gyda darparwyr gofal i fynd ati i lunio’r farchnad ofal, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl Caerdydd heddiw, ac yn ymateb i anghenion yfory, gan gynnwys cynyddu’r gofal arbenigol o ansawdd uchel i bobl sy’n byw gyda dementia neu gyflyrau iechyd cymhleth eraill.
  • Rhoi cymorth ychwanegol ar waith i recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a staff arbenigol eraill, gan eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau ​gofal cymdeithasol effeithiol o ansawdd da.

 


​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd