Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Trafnidiaeth a Chynllunio Strategol

​​​​​​Cynghorydd De'Ath

Ein huchelgais ar gyfer trafnidiaeth yw trawsnewid yn sylfaenol y ffordd y mae pobl yn symud o amgylch y ddinas, gan leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat tra’n ei gwneud yn haws, yn fwy diogel ac yn rhatach i bobl gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn golygu mwy o lonydd beiciau, lonydd bysus, a ffyrdd 20MYA, gorsafoedd a llwybrau metro newydd, ac ymrwymiad i docynnau bws cost isel newydd. Bydd hyn i gyd yn gwneud cyfraniad pendant at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo twf economaidd cynhwysol.

Fel Cyngor, mae gennym hefyd rôl bwysig i’w chwarae wrth lunio sut y caiff y ddinas ei datblygu. Mae angen inni fod yn cynllunio heddiw ar gyfer Caerdydd yfory, dinas sy’n lle gwell fyth i fyw, gweithio ac astudio ynddo nag ydyw ar hyn o bryd, ac a fydd yn gallu gwrthsefyll heriau’r degawd nesaf, yn bwysicaf oll yr argyfwng hinsawdd. Felly, byddwn yn cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd i helpu i siapio Caerdydd am y 15 mlynedd nesaf, gan sicrhau bod y datblygiad cywir – tai, trafnidiaeth, tir cyflogaeth – yn digwydd yn y lle iawn ar yr adeg iawn, mewn ffordd gydlynol a all fod o fudd i gymunedau, diogelu’r amgylchedd a thyfu’r economi mewn ffordd gynaliadwy.

Byddwn yn:

  • Cwblhau cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd, gan gryfhau’r cysylltiadau rhwng canol y ddinas a’r Bae.
  • Nodi cynlluniau ar gyfer gorsafoedd newydd yn Heol y Crwys, Butetown, Llaneirwg, Felindre, Melin Trelái, Parc y Rhath, Gabalfa a Heol Casnewydd.
  • Gwella trafnidiaeth bysus yn sylweddol drwy gyflwyno mesurau â mwy o flaenoriaeth, gwasanaethau newydd, a gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno tocyn bws safonol gwerth £1.
  • Datblygu a chytuno ar Strategaeth Fysus newydd ar gyfer Caerdydd.
  • Cwblhau’r pum llwybr beicio strategol, gan gynnwys llwybr llawn i Gasnewydd.
  • Sicrhau bod cydymffurfio â gwerth Terfyn NO2 yr UE yn cael ei gynnal ar Stryd y Castell a chymryd camau lle bynnag y bo angen i sicrhau ansawdd aer da ledled Caerdydd.
  • Parhau i ddatblygu gwelliannau trafnidiaeth ac aer glân yng nghanol y ddinas gan gynnwys cwblhau’r gwaith ailgynllunio yn y Sgwâr Canolog ac o’i amgylch, yn nwyrain canol y ddinas ac ar
  • y Boulevard de Nantes.
  • Parhau i gefnogi’r sectorau bysus a thacsis i gyflymu tuag at gyflawni fflydoedd heb allyriadau pibell fwg cyn 2028.
  • Gwneud ein cymunedau’n iachach ac yn fwy diogel drwy fabwysiadu dull ataliol pobl yn gyntaf o ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd drwy wneud pob ardal breswyl yn 20MYA ac archwilio dulliau gorfodi newydd.
  • Meithrin diwylliant teithio llesol cryf ym mhob ysgol yng Nghaerdydd drwy ddarparu cynlluniau seilwaith i hwyluso teithiau llesol i ysgolion a chyflwyno mesurau i atal teithio mewn
  • ceir i’r ysgol.
  • Parhau i gyflwyno rhaglen helaeth o welliannau lleol i’n ffyrdd a’n troedffyrdd er mwyn cael gwared ar ddiffygion fel tyllau ffyrdd.
  • Ystyried ac adolygu opsiynau codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd i nodi cyfleoedd a manteision i drigolion Caerdydd a sicrhau gwelliannau i drafnidiaeth.
  • Datblygu ymgyrch ledled y ddinas i hyrwyddo Teithio Llesol. 
  • Nodi cyfleoedd ar gyfer parcio beiciau’n ddiogel ar draws canolfannau lleol allweddol.
  • Datblygu Safleoedd Parcio a Theithio ar draws y ddinas.
  • Cyflwyno Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Caerdydd a fydd yn helpu i greu dinas deg, iach, haws byw ynddi, gynaliadwy a charbon isel.
  • Gweithio gydag awdurdodau cyfagos i gytuno ar Gynllun Datblygu Rhanbarthol newydd wedi’i lunio ar egwyddor datblygu sydd wedi ei seilio ar ddulliau teithio.
  • Diogelu’r lletem las o amgylch Caerdydd.
  • Diogelu mannau lleol ar gyfer natur – yn enwedig mewn ardaloedd trefol - drwy ganllawiau cynllunio llymach a nodi tir lleol ar gyfer prosiectau tyfu lleol.
  • Mabwysiadu rheolaethau llawer llymach ar Dai Amlfeddiannaeth a phwyso am ddiwygio System yr Arolygiaeth Gynllunio ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Phenderfyniadau Cynllunio ac
  • Amgylchedd Cymru (PCAC).
  • Mabwysiadu egwyddorion uwchgynllunio cadarn i sicrhau y gellir dwyn datblygwyr yng Nghaerdydd i gyfrif am eu cyfraniad at ddiwallu anghenion cymunedau, gwella trafnidiaeth, darparu tai
  • fforddiadwy a darparu seilwaith gwyrdd.
  • Diogelu a dathlu adeiladau lleol fel tafarndai, mannau cymunedol a lleoliadau cerddoriaeth - yn enwedig y rhai sy’n gyfoethog i hanes dosbarth gweithiol y ddinas - drwy gryfhau ein
  • rheoliadau cynllunio a pharhau i lobïo Llywodraeth Cymru am bwerau cryfach.
  • Mynd i’r afael ag eiddo sy’n wag yn yr hirdymor drwy ystyried Premiwm Treth Gyngor 300%.
  • Mabwysiadu egwyddorion dinasoedd 15 munud, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, creu lleoedd, a dwysedd o ran datblygiadau y mae’r weledigaeth hon yn eu mynnu.
  • Ehangu cyfranogiad a hygyrchedd wrth gynllunio’r ddinas a sicrhau bod llwyfannau priodol ar gyfer ymgysylltu ac i leisiau cymunedol yn nyluniad y ddinas.
  • Cyhoeddi strategaeth Dinas Glyfar Caerdydd sy’n nodi sut y bydd technolegau a data digidol yn gwella gwasanaethau a seilwaith y ddinas.
  • Integreiddio egwyddorion dylunio gwych, creu lleoedd, gwyrddu a chynaliadwyedd ym mhob cynnig ar gyfer datblygu a mannau cyhoeddus.
  • Darparu Cartref Cŵn modern fydd wedi ei wella’n sylweddol.​



​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd