
Mae ein parciau a’n mannau gwyrdd, yn ogystal â a sîn diwylliant, adloniant a chwaraeon ein prifddinas yn rhan fawr o’r hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor wych i fyw ynddo. Roedd y pandemig a’r cyfyngiadau symud yn tanlinellu pa mor bwysig yw ein parciau i’n hiechyd, ein hapusrwydd a’n lles. Dyna pam y byddwn yn buddsoddi yn ein parciau a’n mannau gwyrdd, gan ganolbwyntio ar wella’r rheini yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Yng Nghaerdydd, mae gennym seilwaith diwylliannol a chwaraeon a all gynnal digwyddiadau rhyngwladol mawr, a thalent a lleoliadau creadigol a chwaraeon lleol i gystadlu ag unrhyw ddinas. Wrth i ni ailadeiladu’r economi ddiwylliannol, chwaraeon a digwyddiadau ar ôl Covid, byddwn yn cyflwyno rhaglen newydd i ddod â digwyddiadau mawr i Gymru, a thrwy weithio gydag artistiaid a cherddorion lleol, byddwn yn hyrwyddo talent leol, yn cadw lleoliadau lleol ac yn datblygu digwyddiad arwyddocaol newydd sy’n cyflwyno’r gorau o Gaerdydd a Chymru i’r byd.
Byddwn yn:
- Sicrhau Gwobr y Faner Werdd ychwanegol bob blwyddyn o’r weinyddiaeth – gan ganolbwyntio ar ardaloedd o amddifadedd uchel – gan gymryd nifer y Parciau Baner Werdd o 15 i 20.
- Cadw Castell Caerdydd ar agor fel parc cyhoeddus.
- Cyflwyno ein prosiect Coed Caerdydd gyda phlannu coed torfol parhaus a chreu coetiroedd newydd, gan godi canopi coed ac ardaloedd bioamrywiol y ddinas o 19% i 25% o gyfanswm y defnydd tir yma.
- Tyfu ein gweithlu parciau a choetiroedd drwy fuddsoddiad a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer prentisiaethau a grwpiau gwirfoddol.
- Cwblhau ymarfer Mapio Meysydd Chwarae a gweithredu ar ei argymhellion i sicrhau bod buddsoddiad newydd mewn offer chwarae a mannau chwarae newydd yn cael ei gyfeirio at yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.
- Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd newydd sy’n canolbwyntio ar natur ar gyfer Ynys Echni.
- Cefnogi Caerdydd i ddod yn Ddinas Parc Cenedlaethol.
- Parhau i gyflawni ein Strategaeth Dinas Gerdd i gefnogi a meithrin creu cerddoriaeth ar bob lefel, gan gefnogi Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd i weithredu argymhellion cytûn adroddiad Sound Diplomacy.
- Defnyddio ein gwaith ar y Strategaeth Gerddoriaeth fel templed ar gyfer Strategaeth Ddiwylliannol newydd sy’n canolbwyntio ar gefnogi a dathlu talent greadigol Caerdydd.
- Datblygu llif newydd o ddigwyddiadau mawr wedi’u hangori o amgylch gŵyl gerddoriaeth ar gyfer artistiaid lleol.
- Cais i fod yn ddinas gynhaliol ar gyfer pencampwriaethau pêl-droed Ewro 2028, gan gynnwys sefydlu rhaglen etifeddiaeth sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc.
- Gweithio gyda lleoliadau celfyddydol a diwylliannol i ddod yn fwy hygyrch i deuluoedd a phlant fel rhan o’r cynllun ‘Pasbort i’r ddinas’.
- Sicrhau bod Neuadd Dewi Sant yn cadw ei safle fel awditoriwm o’r radd flaenaf.
- Gweithio gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyflwyno dyfodol newydd i’r Hen Lyfrgell fel gofod perfformio a dysgu.
- Ymchwilio i gronfa waddol celf gyhoeddus.
- Ceisio adrodd straeon grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn well yng ngherfluniau a chelf gyhoeddus y ddinas.
- Cyflwyno strategaeth cyfranogiad chwaraeon newydd sy’n canolbwyntio ar gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith cymunedau a grwpiau sydd â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon.
- Rhoi blaenoriaeth o ran gofodau ac asedau cyhoeddus i glybiau a sefydliadau lleol a chefnogi clybiau chwaraeon cymunedol, gyda phwyslais arbennig ar grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol megis menywod a merched, cymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a’r gymuned LHDTC+.
- Parhau â’n buddsoddiad mewn canolfannau hamdden, gan gynnwys adnewyddu Canolfan Hamdden Pentwyn a darparu cyfleusterau caeau 3G ychwanegol.