
Mae’r newyddion am farwolaeth dinasoedd, y clywyd llawer o sôn amdano yn ystod y pandemig, wedi’i orliwio’n fawr. Er y bydd gweithio gartref ac ystwyth yn effeithio ar sut mae dinasoedd yn cael eu defnyddio gan fusnesau a gweithwyr, a bydd yn rhaid i ganol dinasoedd addasu i’r newid i fanwerthu ar-lein, bydd crynhoi, arloesi a chreadigrwydd yn parhau i sbarduno twf economaidd a swyddi. Fel dinas graidd Cymru, bydd Caerdydd yn parhau i chwarae rôl arweiniol yn economi Cymru ar ôl Covid.
Bydd y Cyngor yn gweithio gyda busnesau a buddsoddwyr lleol i arwain adferiad ac adnewyddiad yn economi’r ddinas. Bydd momentwm yn cael ei feithrin o’r newydd gyda rhaglen uchelgeisiol o adfywio canol y ddinas, gan gwblhau’r gwaith o drawsnewid Bae Caerdydd a datblygu parc diwydiannol newydd yn nwyrain y Ddinas. Byddwn yn creu’r amgylchedd iawn i’n busnes cynhenid lwyddo tra’n gweithio gyda phartneriaid i ddenu cwmnïau newydd, arloesol i Gaerdydd. Gyda’n gilydd, byddwn yn adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach, gan sicrhau mwy o fuddsoddiad, busnesau cryfach ac, yn y pen draw, mwy o swyddi gwell i bobl Caerdydd.
Byddwn yn:
- Darparu’r Arena Dan Do 17,000 sedd newydd ym Mae Caerdydd.
- Hwyluso’r gwaith o ailddatblygu Metro Canolog a’r Cei Canolog.
- Hwyluso’r gwaith o ailddatblygu Cwr y Gamlas yn gynhwysfawr, gan gynnwys ailagor y gamlas a chreu mannau cyhoeddus a masnachol newydd ar Ffordd Churchill.
- Gweithio gyda phartneriaid i sefydlu trefniadau rheoli canol dinas newydd i gadw canol y ddinas yn ddiogel, yn lân ac yn fywiog.
- Darparu felodrom newydd fel rhan o gam datblygu newydd yn y Pentref Chwaraeon.
- Cyflwyno cynigion i ddiogelu ac adfywio adeiladau hanesyddol yn y Bae.
- Archwilio’r potensial ar gyfer gwelliannau yng nghynnig twristiaeth busnes Caerdydd.
- Gweithio gyda phartneriaid y Fargen Ddinesig, y sector preifat a Bwrdd Iechyd y Brifysgol i ddatblygu cynnig i greu Campws Parc Gwyddoniaeth newydd yn Coryton.
- Cefnogi’r gwaith o gwblhau Parc Caerdydd a chwblhau pont newydd Llanrhymni fel rhan o’n Strategaeth Ddiwydiannol ar gyfer dwyrain y ddinas.
- Cefnogi busnesau lleol a busnesau newydd fel rhan o ffocws ar yr economi sylfaenol, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i ddenu buddsoddiad i mewn i arloesi a mannau cychwyn busnes ledled y ddinas.
- Ymgysylltu’n agos â’r sectorau manwerthu a lletygarwch i’w galluogi i adnewyddu’n llwyddiannus ar ôl Covid a gwella’r gwaith o hyrwyddo Caerdydd fel cyrchfan i ymwelwyr drwy sefydlu strategaeth ddigwyddiadau newydd.
- Darparu ystâd eiddo’r Cyngor sy’n llai trwchus ac yn wyrddach, gan gynnwys lleihau yr ôl troed carbon 30% a chynhyrchu £25m mewn derbyniadau cyfalaf drwy werthu tir ac asedau erbyn diwedd 2025/26.