Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Tai a Chymunedau

​​​​​Cynghorydd Thorne

Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Nghaerdydd, fy mlaenoriaeth fydd ehangu ar ein rhaglen adeiladu cartrefi Cyngor, cartrefi sydd wedi ennill gwobrau. Dros y 5 mlynedd diwethaf rydym wedi adeiladu 706 o gartrefi Cyngor, ond dros y 5 nesaf mae angen i ni fynd ymhellach ac yn gyflymach. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar helpu’r rhai sy’n rhentu yn y sector preifat, gyda rhenti’n codi a safonau’n rhy aml yn rhy isel, gan gynnwys cefnogi’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i’r sgandal cladin.

Yn ystod y pandemig, gwnaethom gymryd camau radical i helpu pobl oddi ar ein strydoedd. Gostyngodd nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd o dros 100 i lai na 10, a bwriadwn ei gadw’n isel, gan ddefnyddio ein hymagwedd ataliol, amlasiantaethol tuag at gefnogi pobl oddi ar y strydoedd.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau, drwy ein rhwydwaith cynyddol o Hybiau Cymunedol a Lles a thrwy raglen well o gynlluniau adfywio canolfannau cymunedol ac ardal. Yn gysylltiedig â hyn, byddwn yn parhau i weithio gyda’r Heddlu i sicrhau bod cymunedau yng Nghaerdydd yn ddiogel, yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a, gyda’n gilydd, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl, yn enwedig ein pobl ifanc, rhag syrthio i droseddu neu gael eu hecsbloetio gan droseddwyr.

Byddwn yn:

  • Darparu rhaglen estynedig o godi tai Cyngor i gynyddu’r stoc o dai Cyngor gan o leiaf 1,500 o unedau, gan ganolbwyntio ar gartrefi di-garbon. 
  • Cynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon drwy raglen Ôl-ffitio Effeithlonrwydd Ynni Tai ar draws pob deiliadaeth tai, gan gyrraedd 2,000 o ôl-ffitiadau domestig y flwyddyn erbyn 2024. 
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid er mwyn helpu i fynd i’r afael â chost rhentu yn y sector preifat a chodi safonau, gan gynnwys archwilio dichonoldeb tai a arweinir gan y gymuned ac i godi taliadau pellach ar eiddo gwag. 
  • Parhau i gefnogi dioddefwyr y sgandal Cladin a ddiogelwch Tân, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu ymyriadau ymarferol megis gosod systemau chwistrellu tân lle bo hynny’n briodol a phwyso ar ddatblygwyr i gynnig iawndal. 
  • Parhau â’n dull ‘Dim Mynd Nôl’ i gadw cysgu ar y stryd ar y lefelau isaf erioed. 
  • Mabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar drawma ac ar iechyd y cyhoedd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sy’n agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd wedi arfer byw ar y stryd. 
  • Gwella ansawdd ein llety â chymorth gan gynnwys darparu’r cynlluniau tai â chymorth ar gyfer pobl sengl yn Adams Court ac ar gyfer teuluoedd yn Harrison Drive. 
  • Atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael cymorth, gan gynnwys:

    - adolygu a chyngor ar symud ymlaen a gwasanaethau cyfryngu
    - adolygu a chynyddu capasiti o fewn llety porth i bobl ifanc
    - a datblygu cynllun tai â chymorth Citadel ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth. 


  • Ehangu ein rhaglen Adfywio Cymdogaethau a chyhoeddi strategaeth newydd i gefnogi canolfannau ardal a lleol, yn seiliedig ar egwyddorion creu lleoedd dinasoedd 15 munud.
  • Darparu hyd yn oed mwy o Hybiau Cymunedol a Lles gyda phartneriaid, gan ganolbwyntio ar ardaloedd â lefelau mynediad is, gan gynnwys Hyb Ieuenctid yng nghanol y ddinas a darpariaeth newydd yn Hyb Ieuenctid Trelái; a Hybiau Iechyd a Lles newydd yn y Maelfa, Trelái a Chaerau ac ar safleoedd cynllunio strategol.
  • Darparu pentref lles aml-genhedlaeth ‘Coleg Llanfihangel’, gan ddod â thai i bobl hŷn a theuluoedd a chyfleusterau iechyd, tai a chymunedol at ei gilydd mewn un prosiect cynaliadwy a thrawsnewidiol.
  • Datblygu tai i bobl hŷn sy’n cefnogi byw’n annibynnol ledled y ddinas, gan gynnwys fflatiau sy’n barod am ofal yn Nhredelerch, y Maelfa a Llaneirwg a fflatiau yn Nhreganna, Stryd Bute a Heol y Morfa.
  • Creu cymunedau mwy gwydn drwy ehangu’r dull grŵp datrys problemau amlasiantaethol wedi’i dargedu ar gyfer mannau lle ceir problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys defnyddio teledu cylch cyfyng mewn ardaloedd problemus.
  • Cymeradwyo, mewn partneriaeth ag aelodau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, Strategaeth Atal Trais newydd sy’n canolbwyntio ar atal pobl ifanc rhag mynd i droseddu neu i ddioddef o gamfanteisio troseddol.
  • Gweithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a merched, camdrin domestig a thrais rhywiol, a chymryd camau i gryfhau’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr, gan gynnwys cytuno ar strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi’i diweddaru a chynnal adolygiad llawn o lety lloches yn y ddinas erbyn mis Mawrth 2023.
  • Parhau i gyflwyno’r achos i Lywodraeth San Steffan am arian ychwanegol i dalu am gost plismona ein prifddinas, fel sy’n wir ym mhrifddinasoedd eraill y DU.
​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd