Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Trechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd

​​​​​​​​​​​Cynghorydd Sangani a Cynghorydd Bradbury

Mae mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb hirdymor wrth wraidd ein holl ymrwymiadau polisi. Y flaenoriaeth dros y 5 mlynedd nesaf fydd helpu ein trigolion gyda’r argyfwng costau byw a chau’r bwlch anghydraddoldeb sydd, mewn llawer o achosion, wedi’i waethygu gan y pandemig diweddar. Fel y gwnaethom drwy gydol y pandemig Covid, byddwn yn sicrhau bod rhagolygon hirdymor plant a phobl ifanc ar flaen ein meddwl a’n penderfyniadau.

Byddwn felly yn sicrhau bod gennym wasanaeth ieuenctid gwych ar gael ledled y ddinas, gan ddiwallu anghenion plant ar draws ein gwahanol gymunedau. Byddwn yn darparu cyfleoedd iddynt gael mynediad at gyfleusterau chwarae modern, cael profiadau a chael eu cefnogi i gael hyfforddiant a chyflogaeth pan fyddant yn gadael yr ysgol. Bydd hyn yn golygu bod y swyddi a’r cyfleoedd a ddaw drwy ein rhaglen uchelgeisiol o adeiladu tai ac adfywio’r ddinas yn cyflawni ar gyfer pobl ifanc a chymunedau lleol.

Gan adeiladu ar y cydweithio rhagorol rhwng gwasanaethau cyhoeddus dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a helpodd Gaerdydd i ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus, byddwn yn parhau i gydweithio i fynd i’r afael â’r niwed ehangach a achoswyd gan y pandemig a’r problemau sy’n bodoli eisoes sy’n effeithio ar iechyd a lles ein poblogaeth.

Byddwn hefyd yn parhau i ddathlu amrywiaeth ei chymunedau. Mae ieithoedd, diwylliannau, crefyddau - a bwydydd! - ein dinas yn ffynhonnell o gryfder mawr a’r hyn sy’n gwneud Caerdydd yn lle mor groesawgar a hael i fyw ynddo. A byddwn yn parhau, fel y gwnaethom erioed, i groesawu pobl i wneud eu cartrefi ac adeiladu bywydau newydd yn ein dinas, gan gefnogi ar frys y rhai sy’n dianc rhag y gwrthdaro yn Wcráin.

Y Cynghorydd Julie Sangani Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd.
Y Cynghorydd Peter Bradbury Trechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc.


Byddwn yn:

  • Cyflwyno Strategaeth Cyfranogiad Cymunedol newydd, gan ymhelaethu ar leisiau pobl sydd ar hyn o bryd yn llai tebygol o gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Fel Dinas Noddfa, croesawu a chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i adeiladu bywyd newydd yng Nghaerdydd a Chymru, gan eu cefnogi i gymryd rhan a chyfrannu at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y brifddinas, gan gynnwys parhau i arwain ymateb y ddinas i argyfyngau Wcráin ac Affganistan.
  • Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid eraill i gyflawni gweithgarwch wedi’i dargedu er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd ledled y ddinas, gan gynnwys:

    Cynyddu nifer y plant sy’n cael eu himiwneiddio.
    Cynyddu’r nifer sy’n cael eu sgrinio am ganser y coluddyn.
    Mynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant.


  • Ymateb i argymhellion y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol a’u rhoi ar waith yn llawn.
  • Datblygu rhwydwaith ‘Cydraddoldeb ac Amrywiaeth’ ledled y ddinas ar gyfer cyflogwyr i annog arfer da a chydweithio, yn enwedig i gefnogi gweithredu yn y gweithle.
  • Adeiladu ar ein gwobr Statws Aur Stonewall fel rhan o’n hymrwymiad i gynwysoldeb LHDTC+, gyda’r nod o ddod ymhlith 100 cyflogwr gorau Stonewall a’r awdurdod lleol uchaf yng Nghymru ym Mynegai Stonewall.
  • Mabwysiadu egwyddorion y Confensiwn ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a dod yn Ddinas CEDAW.
  • Hyrwyddo bwyd iach, lleol a charbon isel, gyda mwy o ffocws ar weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â thlodi bwyd.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gefnogi cais Caerdydd i fod y Lle Bwyd Cynaliadwy Aur cyntaf yng Nghymru.
  • Datblygu cynlluniau i sicrhau bod prydau ysgol yn iach ac yn dibynnu ar gadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy a charbon-isel.
  • Ymateb i argymhellion yr adolygiad annibynnol ar y Gwasanaethau Ieuenctid, gan sicrhau bod mynediad i’r gwasanaeth ar gael yn deg ar draws y ddinas tra hefyd yn ymateb i anghenion gwahanol gymunedau a grwpiau o bobl ifanc.
  • Darparu Parth Ieuenctid yn Nhrelái ac archwilio partneriaethau arloesol eraill i gefnogi gwasanaethau ieuenctid yn y ddinas.
  • Integreiddio gwasanaethau chwarae yn well yn ein cynnig ehangach i bobl ifanc.
  • Ymateb i’r argyfwng costau byw, gan sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a’u bod yn eu hawlio.
  • Buddsoddi yn ein Gwasanaethau i Mewn i Waith a dod â gwasanaethau cymorth cyflogaeth ehangach at ei gilydd o dan un gwasanaeth a all helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant.
  • Defnyddio llwyddiant cynlluniau Academi Gofalwyr Caerdydd a Chaerdydd ar Waith fel glasbrint i fodloni unrhyw ofynion newydd neu sy’n dod i’r amlwg ymhlith gweithlu’r ddinas;
  • Gweithio ochr yn ochr â phrosiectau adfywio mawr, gan gynnwys yr Arena Dan Do newydd, i gefnogi pobl leol i’r swyddi newydd y bydd y prosiectau’n eu creu.
  • Cyflwyno’r gwasanaeth Dysgu i Oedolion newydd a all helpu pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo. 
  • Cefnogi’r galw mawr am swyddi gwag yn y diwydiant adeiladu drwy ddatblygu’r Academi Adeiladu ar y Safle ymhellach a chreu Grŵp Tasglu gyda chynrychiolaeth o blith contractwyr, asiantaethau recriwtio, cymdeithasau masnach a chymdeithasau tai i ystyried dyfodol gwaith a sgiliau yn y sector.
  • Parhau i gefnogi prentisiaethau newydd a chyfleoedd i hyfforddeion o fewn y Cyngor, gyda’r nod o gael dros 500 o brentisiaethau erbyn 2025.

​​​​​​​​​​​​​​​ ​
© 2022 Cyngor Caerdydd