Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Arweinydd Cyngor Caerdydd

​​​​​​​Cynghorydd Thomas

Gan adeiladu ar gynnydd y 5 mlynedd diwethaf, byddwn yn parhau i ddatblygu pwerdy o economi sy’n sicrhau ffyniant economaidd, nid yn unig i bobl a chymunedau Caerdydd, ond i’r wlad gyfan. Byddwn hefyd yn parhau i arwain yr ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd drwy gyflymu’r broses tuag at ddod yn Gyngor sero-net a chynnull ymagwedd sy’n cwmpasu’r ddinas gyfan i ymdrin â newid yn yr hinsawdd. Ac, yn hollbwysig, byddwn yn gwneud Caerdydd yn ddinas decach, lle gall pawb, beth bynnag fo’u cefndir, fwynhau’r cyfleoedd a’r manteision a ddaw o fyw yng Nghaerdydd.

Bydd hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid ar draws pob sector, ar draws pob lefel o Lywodraeth ac ar draws ffiniau rhanbarthol a chenedlaethol – i greu dinas gryfach, decach a werddach.

Byddwn yn:

  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod Caerdydd yn cael ei chefnogi ac y manteisir yn llawn ar asedau economaidd a diwylliannol y brifddinas yn yr adferiad wedi’r pandemig.
  • Drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o gynnull cydweithredu ar draws gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â phroblemau cymhleth na ellir ond mynd i’r afael â hwy drwy gydweithio.
  • Chwarae rhan flaenllaw yn y Brifddinas-Ranbarth, gan gynnwys datblygu strategaethau cynllunio, trafnidiaeth, llywodraethiant a threfniadau darparu a datblygu economaidd strategol, sy’n cefnogi rôl Caerdydd fel canolfan economaidd, ddiwylliannol a hamdden y rhanbarth.
  • Cefnogi economi Caerdydd a’r Brifddinas-Ranbarth drwy sicrhau bod y Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn canolbwyntio ar y prosiectau strategol sy’n cyflawni ar gyfer y ddinas a’i rhanbarth.
  • Gweithio gyda Phorth y Gorllewin i fuddsoddi mewn seilwaith strategol ar draws de Cymru a de-orllewin Lloegr, gan gynnwys gwella cysylltedd trenau a lleihau amseroedd teithio i Fryste, Abertawe a Llundain.
  • Gweithio ochr yn ochr â’r Dinasoedd Craidd i sicrhau bod llais dinasoedd Prydain yn cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan. Arwain prifddinas ddwyieithog lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad a’i chefnogi yn ein hysgolion, ein gweithleoedd a’n cymunedau.
  • Cyflwyno ymateb ‘Caerdydd Un Blaned’ i’r argyfwng hinsawdd, gan gyflymu’r broses o drosglwyddo i Sero Net drwy roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth a wnawn fel Cyngor.
  • Arwain partneriaeth gyda Phrifysgolion a sector Addysg Uwch ein dinas, gan ganolbwyntio ar fywyd a chymuned y myfyrwyr, ar ddatblygu economaidd, iechyd meddwl a diogelwch myfyrwyr a’r newid i sero net.
  • Parhau i foderneiddio a chydgysylltu ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gymryd arloesi yn yr ymateb i Covid-19 ymlaen i’r gwaith o adfer ac ​adnewyddu.
​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd