Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymrwymiadau Newid yn yr hinsawdd

​​​​Y Cynghorydd Wild
Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd. Deallwn fod angen gweithredu ar frys os ydym am osgoi’r peryglon sydd o’n blaenau a, thrwy ein Strategaeth Caerdydd Un Blaned, rydym wedi nodi ystod eang o gamau uchelgeisiol a fydd yn hwyluso’r pontio i ddod yn Gyngor sero net a Chaerdydd sero net mewn modd sy’n cefnogi economïau gwyrdd newydd a mwy o les cymdeithasol yn y ddinas.

Bydd y 5 mlynedd nesaf yn hollbwysig. Er mwyn cyflawni ein dyheadau Caerdydd Un Blaned bydd angen gweithredu ar draws popeth a wnawn. ​Bydd angen inni adnabod ffynonellau lleol o ynni adnewyddadwy, buddsoddi mewn trafnidiaeth gynaliadwy ac ôl-ffitio tai. Bydd angen i ni wella mannau gwyrdd ein dinas sydd eisoes yn rhagorol, uwchraddio ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd a gwella ein cyfraddau ailgylchu i fod ymhlith yr uchaf ar gyfer unrhyw ddinas yn unrhyw le. Wrth wneud hynny, gallwn wneud Caerdydd yn ddinas sy’n adnabyddus ledled y byd am weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac fel canolfan sy’n arwain y byd ar gyfer diwydiannau ac arloesi carbon isel.

Byddwn yn:

  • Datblygu mwy o brosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr fel Fferm Solar Ffordd Lamby.
  • Cwblhau Rhwydwaith Gwres cynaliadwy newydd, gan ddefnyddio’r gwres a gynhyrchir yn y gwaith Ynni o Wastraff i wresogi adeiladau ym Mae Caerdydd.
  • Gweithio gyda busnesau a phrifysgolion i osod y rhanbarth fel canolfan sy’n arwain y byd ar gyfer diwydiannau carbon isel ac arloesi.
  • Arwain y ddadl ar y potensial ar gyfer ynni’r llanw yn Aber Afon Hafren drwy Gomisiwn Annibynnol Porth y Gorllewin.
  • Newid pob un o’r 24,000 o oleuadau preswyl i oleuadau LED ynni isel gan arbed 836 tunnell o CO2 a thros £400k y flwyddyn.
  • Cyhoeddi cynllun gweithredu, gan gynnwys set o dargedau lleihau carbon blynyddol, a fydd yn gosod Cyngor Caerdydd ar y llwybr i fod yn sefydliad sero-net erbyn 2030, gan gynnwys:

    - Lleihau effaith carbon ein swyddfeydd craidd, ein ystadau ehangach a cherbydau’r Cyngor
    - Newid ein fflyd i fflyd o gerbydau trydan neu allyriadau isel.
    - Lleihau ôl troed carbon y bwyd sy’n cael ei weini ar draws ein hystâd a’n gwasanaethau.
    - Datgarboneiddio ein cadwyn gyflenwi.


  • Gweithio gyda’r llywodraeth i gryfhau amddiffynfeydd llifogydd arfordirol Caerdydd, yn enwedig yn nwyrain y ddinas.
  • Lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd o afonydd a dyfrffyrdd a sicrhau bod dull dalgylch rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio i reoli dŵr.
  • Cyflawni cynllun seilwaith gwyrdd uchelgeisiol y Cyngor, gan sicrhau bod ein hymagwedd at seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth yn ymateb i strategaeth Caerdydd Un Blaned a’r argyfwng natur.
  • Buddsoddi mewn rhagor o gynlluniau draenio lleol a chynaliadwy i ddiogelu ein cymunedau rhag tywydd eithafol a llifogydd sydyn.
  • Gwneud Caerdydd yn ddinas sy’n arwain y byd ar gyfer ailgylchu drwy gyflawni perfformiad ailgylchu o 70%.
  • Symud tuag at economi fwy cylchol a lleihau maint y gwastraff drwy sicrhau bod mwy o adnoddau’n cael eu hailddefnyddio a bod adnoddau’n aros yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys:

    - Tynnu 27m o fagiau ailgylchu gwastraff o wasanaeth gwastraff y Cyngor bob blwyddyn.
    - Gweithio gyda lleoliadau mawr i gael gwared ar gynhyrchion plastig untro.
    - Datblygu cynlluniau ar gyfer Canolfannau Ailddefnyddio ac Uwchgylchu.


  • Gweithio ochr yn ochr â dinasyddion a chymunedau i ddatgloi gweithredu dinesig, a rhoi cymorth ychwanegol ar gyfer casglu sbwriel yn lleol a mentrau a arweinir gan y gymuned.
  • Sicrhau bod pob ward yng Nghaerdydd yn cyrraedd y safonau uchaf o ran glendid stryd, gyda chefnogaeth rhaglen gynhwysfawr o adlinio i wasanaethau Strydlun y Cyngor.
  • Mynd i’r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon drwy recriwtio staff rheng flaen ychwanegol i gryfhau gweithgarwch Addysg a Gorfodi ac edrych ar fesurau pellach fel treialu Swyddogion Diogelu’r Gymuned.
  • Arwain rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd i ddeall y rhwystrau i newid ymddygiad a dylunio dulliau arloesol o gefnogi pobl i leihau eu hôl troed carbon.

​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd