Yn ystod datblygiad y Cynlluniau Diogelwch ar y Priffyrdd rydym yn ymgynghori â phreswylwyr lleol, a grwpiau eraill â diddordeb, er mwyn esbonio'r rhesymau am y cynllun a'i ddyluniad. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhoi'r cyfle i chi gyfrannu gwybodaeth berthnasol a allai effeithio ar ddyluniad terfynol y cynllun.
Mae hysbysiadau am y cynllun yn cael eu hanfon i breswylwyr sy'n byw ar y ffordd ger y cynigion. Mae'r hysbysiadau hyn hefyd yn cael eu harddangos ar y safle. Ar ôl y cyfnod ymgynghori bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu diweddaru gyda'r wybodaeth ddiweddaraf.
Dewiswch gynllun penodol o'r rhestr i weld ble mae'r ymgynghoriad arni. Yn ystod y cyfnod ymgynghori bydd y dogfennau canlynol ar gael:
- disgrifiad o'r cynllun, a
- cynlluniau mynegol o'r cynigion
Yn ystod y cyfnod ôl-ymgynghori bydd yr Adroddiad Ymgynghori a'r cynlluniau dylunio cysyniad yn cymryd eu lle.
Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein
Cysylltu â ni