Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymgynghoriad Parth Parcio De Glan-yr-afon

​​​Rydym yn cynnig cynllun gwella priffyrdd a hoffem glywed gennych.  

Cyfeirnod y Cynllun:  CPZ/E​

Math o gynllun:  Parcio

Ward:  Glan-yr-afon





Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.​


  • Gerddi Claire
  • Claire Place 
  • De Burgh Place 
  • De Burgh Street
  • Gloucester Street
  • Heath Street
  • Machen Place 
  • Mandeville Place 
  • Mandeville Street 
  • Stryd Tudor
  • Wyndham Street

















Unrhyw ffyrdd eraill sydd ond ar gael o'r uchod.  


Ar hyn o bryd rydym yn cynnig cyflwyno parth parcio yn ardal Glan-yr-afon (i'r de o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen).  
Mae parth parcio yn ardal lle caiff yr holl drefniadau parcio ar y stryd eu rheoli gan fannau parcio mewn lleoliadau diogel, neu linellau melyn lle mae parcio'n beryglus neu’n achosi rhwystr.

Mae hyn yn helpu i: 

  • ddarparu mwy o le parcio i breswylwyr a’u hymwelwyr,  
  • gwella diogelwch,  
  • atal cymudwyr rhag parcio, ac 
  • annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.







Bydd parcio yn y parth yn cael ei reoli'n bennaf naill ai drwy barcio â thrwyddedau neu drwy aros cyfyngedig.  

Bydd y trefniadau parcio i Ddeiliaid Trwyddedau yn Unig yn berthnasol drwy’r dydd, bob dydd. Mae hyn yn sicrhau bod rhai lleoedd parcio ar gael bob amser i breswylwyr. Er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i breswylwyr reoli eu parcio eu hunain, bydd deiliaid trwyddedau’n gallu parcio ar eu stryd neu ar y stryd agosaf sydd ar gael o fewn y parth.  

Rhoddir trwyddedau yn unol â'r polisi cyfredol.  Fodd bynnag, ni fydd eiddo sydd â mynediad i feysydd parcio oddi ar y stryd sy'n gysylltiedig â'r eiddo/adeilad hwnnw, neu eiddo a droswyd ar ôl 2022 yn gymwys i gael trwyddedau.   

Bydd y trefniadau parcio Aros Cyfyngedig yn weithredol rhwng 7am a 8pm. Fodd bynnag, bydd deiliaid trwydded yn gallu parcio yn y mannau parcio aros cyfyngedig am gyfnod amhenodol wrth arddangos trwydded ddilys yn glir.    

Bydd manylion unrhyw drwydded presennol neu barcio aros cyfyngedig yn cael eu newid fel eu bod yr un fath â'r uchod.  

Bydd rhai llinellau melyn hefyd yn cael eu cyflwyno lle bo angen i atal parcio peryglus neu barcio sy’n achosi rhwystr.   

Er mwyn atal defnydd gan gymudwyr, bydd unrhyw fannau parcio talu ac arddangos presennol yn dod yn rhai arhosiad byr (aros am 5 awr ar y mwyaf). 

Ni wneir unrhyw newidiadau i unrhyw daliadau neu dariffau parcio, nac unrhyw fannau parcio i bobl anabl.

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
 
Yn dilyn yr adborth a gawsom, mae penderfyniad wedi’i wneud i fwrw ymlaen â’r cynllun.

Fodd bynnag, cynigiwyd y byddai'r parth parcio yn gweithredu rhwng 7am ac 8pm. Ar ôl ystyried yr adborth a gawsom, byddwn yn newid hyn, fel y bydd y parth parcio yn gweithredu rhwng 8am a 10pm. 

Byddwn nawr yn dechrau'r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (GRhT)​. Fel rhan o hyn, byddwch yn gallu gweld dyluniadau parcio manwl ac yn gallu gwrthwynebu'r cynllun yn ffurfiol, os byddwch am wneud hynny. 

Mae gwneud GRhT yn broses hir a gall gymryd rhwng 6 i 9 mis i'w gwblhau.​

© 2022 Cyngor Caerdydd