Beth rydyn ni’n ei gynnig?
Rydym yn cynnig cyflwyno dwy drwydded newydd ar gyfer gofalwyr. Bydd y trwyddedau’n rhad ac am ddim.
Bydd pob trwydded yn para hyd at flwyddyn ac ar gael trwy MiPermit.
Trwydded gofalwr
Os ydych yn darparu gofal rheolaidd i rywun sy'n byw yn ardal y cynllun mynediad traffig, gallwch wneud cais am drwydded gofalwr.
Mae hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un sy'n gofalu am aelod o'r teulu, partner neu ffrind sydd angen help ac sy’n methu ymdopi heb gymorth o ddydd i ddydd. Efallai y bydd angen help ar yr unigolyn oherwydd:
- salwch,
- eiddilwch,
- anabledd,
- problem iechyd meddwl, neu
- fod yn gaeth i rywbeth.
Bydd y drwydded yn cael ei rhoi yn uniongyrchol i'r gofalwr, nid y preswylydd.
Trwydded cydymaith
Os ydych chi'n byw yn ardal y cynllun mynediad traffig, gallwch wneud cais am drwydded cydymaith. Gall y drwydded cydymaith gael ei defnyddio gan deulu a ffrindiau nad ydynt yn ofalwyr ond sy'n ymweld yn rheolaidd neu'n helpu gyda gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Gallwch wneud cais am un drwydded cydymaith fesul eiddo. Bydd hyn yn ychwanegol at y trwyddedau ymwelwyr sydd eisoes ar gael.
Gallwch newid rhif cofrestru’r cerbyd sydd ar y drwydded ar unrhyw adeg.
Pryd bydd y trwyddedau hyn yn cael eu cyflwyno?
Os oes digon o gefnogaeth, bydd angen i ni wneud newidiadau i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol (GRhTA) presennol cyn y gallwn gyflwyno’r trwyddedau hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r system trwydded cydymaith newydd. Gall hyn gymryd ychydig fisoedd.
Canlyniadau
Cawsom 107 o ymatebion.
Ar y cyfan, roedd 75% o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion, gyda 55% yn eu cefnogi'n gryf.
Nid oedd 20% o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cynnig.
Nid oedd 5% yn cytuno nac yn anghytuno â'r cynigion.
O ganlyniad, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i fwrw ymlaen â'r newidiadau.
Byddwn nawr yn diweddaru'r system drwyddedau. Pan fyddwn wedi gwneud hyn, byddwn yn ysgrifennu at breswylwyr gyda gwybodaeth am sut i wneud cais am y trwyddedau newydd.