Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Strydoedd Ysgol - Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac Ysgol Coed y Gof

​​Mae Strydoedd Ysgol wedi'u cyflwyno i ddisodli'r cau ffyrdd drwy ddefnyddio staff yn:

  • Ysgol Gynradd Rhiwbeina ar Lôn-y-dail a Lôn Ucha ac 
  • Ysgol Coed y Gof ar Lime Grove a Bramble Close


Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgolion sy’n barthau cerddwyr yn ystod amserau brig gollwng a chasglu disgyblion, gyda’r nod o:

  • helpu plant i ddod i’r ysgol yn ddiogel, 
  • hyrwyddo teithio llesol a
  • lleihau llygredd aer.


Defnyddir camerâu gorfodi i fonitro strydoedd ysgol. Caniateir mynediad i breswylwyr, deiliaid Bathodyn Glas a gofalwyr yn ystod amserau cyfyngedig. 

Gallwch wneud cais am drwydded trwy wefan MiPermit​ neu ar yr Ap. 

Erbyn hyn mae 16 Stryd Ysgol yng Nghaerdydd.

Mae Strydoedd Ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac Ysgol Coed y Gof wedi cael eu cyflwyno gan ddefnyddio proses gyfreithiol o'r enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol sy'n para am 18 mis. Cyn diwedd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol, bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid gwneud y Stryd Ysgol yn barhaol, trwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig.

Dweud eich dweud​









Mae'r ymgynghoriad hwn bellach ar gau.​

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd