Mae'r Cyngor yn cynnig gwneud gwaith gwella priffordd i gefnogi datblygiad Campws Y Tyllgoed gan gynnwys yr adeiladau ysgol newydd dros dro a gafodd gymeradwyaeth cynllunio ar 4 Tachwedd 2022 (cyfeirnod cais cynllunio 22/01719/MJR).
Bydd y gwaith arfaethedig i wella'r briffordd yn cynnwys darparu mesurau diogelwch ysgolion ar Heol y Tyllgoed, Heol Sain Ffagan, Rhodfa Doyle a Llangattock Street, gyda mannau arafu traffig, gwella troedffordd, croesfan sebra a chyfleusterau croesfan sebra gyfochrog ger adeilad newydd yr ysgol. Cynigir gwelliannau i'r droedffordd ym Milton Place, Norbury Road a St Fagans Close. Bydd y cynllun hwn yn gwella diogelwch ar y ffyrdd yn enwedig i gerddwyr a beicwyr a bydd yn darparu gwell cyfleusterau ar gyfer cerdded a beicio i'r ysgol.
Yn ogystal â'r mesurau hyn, cynigir cyfyngiadau parcio a llwytho newydd. Bydd y rhain yn gofyn am Orchymyn Rheoli Traffig (GRhT), a fydd yn destun ymgynghoriad ar wahân fel rhan o broses gyfreithiol Gorchmynion Rheoli Traffig.
Gweld y cynnig llawn (1.33mb PDF).
Os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau ynghylch y cynnig hwn, rhowch wybod ni erbyn 12 Mai 2023.
E-bost: ProjectauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk
Prosiectau Trafnidiaeth
Ystafell 301
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW