Gallwch leisio eich pryderon neu gyflwyno cwyn os ydych yn anhapus â safon y gwasanaeth yr ydych wedi'i derbyn gan y Cyngor, neu os ydych yn anhapus â rhywbeth y mae'r Cyngor neu aelod o staff wedi'i wneud neu wedi methu â'i wneud.
Gall anawsterau godi wrth geisio ymchwilio i gwynion ar ôl i rywbeth ddigwydd, felly disgwyliwn i gwsmeriaid gyflwyno eu cwyn o fewn 6 mis (o dan y Polisi Corfforaethol) neu 12 mis (o dan y Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddod yn ymwybodol o'r broblem. Ni fyddwn yn ymchwilio i gwynion a dderbynnir y tu allan i'r amserlen hon, oni bai y gellir dangos amgylchiadau eithriadol.
Nid cwyn yw:
- adrodd am nam e.e. rhoi gwybod am olau stryd diffygiol. Gallwch
roi gwybod am olau stryd diffygiol ar ein gwefan
- cais cychwynnol am wasanaeth, er enghraifft gofyn am gael gwared ar dipio anghyfreithlon. Gallwch
roi gwybod am dipio anghyfreithlon ar ein gwefan
- cais cyntaf am wybodaeth, neu esboniad o bolisïau neu benderfyniadau’r Cyngor
- sylwadau am rinweddau penderfyniadau polisi’r Cyngor
- her am 'benderfyniad wedi'i wneud yn briodol' y mae hawl statudol i apelio ar ei gyfer
- mecanwaith ar gyfer lobïo neu fodd o geisio newid deddfwriaeth
Os aiff rhywbeth o’i le, mae angen i ni allu datrys y broblem ar unwaith, ac os yn bosibl, cymryd camau i sicrhau na fydd yn digwydd eto.
I gwyno, gallwch:
Lawrlwytho Ffurflen Gwyno (262kb PDF) neu fynd i gasglu un o un o swyddfeydd neu lyfrgelloedd y cyngor. Ar ôl cwblhau’r ffurflen, dylech ei hanfon i:
Cwynion & Chanmoliaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Cysylltu â’ch Cynghorydd lleol
Mae Deddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion meithrin, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion gan rieni, disgyblion, staff, llywodraethwyr ac aelodau o'r gymuned leol.
Mae'r holl gynghorwyr yng Nghyngor Caerdydd yn destun
Cod Ymddygiad (131kb PDF)
Dylid cyfeirio cwynion ffurfiol yn nodi bod Cynghorydd wedi mynd yn groes i’r Cod hwn o bosibl i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae gwefan yr Ombwdsmon yn cynnwys esboniadau ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir gan y Cod a sut mae’r mae’r Ombwdsmon yn penderfynu p’un a ddylid ymchwilio i gŵyn ai peidio.
Mae esiamplau o ffyrdd y gallai cynghorydd fynd yn groes i’r cod ymddygiad gynnwys:
• Ymddwyn mewn ffordd sy’n cael effaith negyddol ar enw da’r cyngor
• Defnyddio eu safle mewn ffordd annheg i gael mantais i’w hunain neu rywun arall
• Defnyddio adnoddau’r cyngor mewn ffordd amhriodol;
• Methiant i ddatgan buddiant;
• Ymddygiad bwlio;
• Methiant i drin pawb yn gyfartal; a
• Datgelu gwybodaeth gyfrinachol ynghylch unigolion heb reswm da.
Bydd yr Ombwdsmon fel arfer ond yn ymchwilio pan fo tystiolaeth bod Cynghorydd wedi cyflawni tramgwydd difrifol.
Os ydych yn teimlo bod Cynghorydd wedi mynd yn groes i’r Cod gallwch gyflwyno cwyn i’r Ombwdsmon ar-lein.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y broses hon ar
wefan y Cyngor
Protocol Datrys Lleol
Mae'r Cyngor hefyd wedi mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol, yn unol ag argymhellion yr Ombwdsmon, i ymdrin â chwynion cymharol 'isel' a wnaed gan Aelod neu Swyddog arall o Gyngor Caerdydd. Fel arfer bydd y cwynion hyn yn ymwneud â methiannau honedig i ddangos parch tuag at eraill ac ystyriaeth ohonynt fel sy'n ofynnol gan baragraff 4 (b) o God Ymddygiad yr Aelodau. Gallai cwynion lefel isel a wneir gan Aelodau'r cyhoedd am achos honedig o dorri'r cod ymddygiad gan gynghorydd gael eu trin hefyd dan y protocol datrysiad lleol os bydd y swyddog monitro yn cytuno bod hyn yn briodol.
Os ydych yn ansicr a yw mater yr ydych yn dymuno cwyno amdano yn 'lefel isel' neu o fewn cylch gwaith y Protocol Datrys Lleol, efallai y byddwch am gysylltu â'r Swyddog Monitro (a all ymgynghori â swyddfa'r Ombwdsmon). Gallwch gysylltu â’r Swyddog Monitro drwy e-bostio davina.fiore@cardiff.gov.uk
Os byddwn yn cael cwyn gennych, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i’ch helpu ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau y byddwch yn rhoi gwybod i ni amdanynt.
Byddwn yn parchu eich hawl i breifatrwydd ac yn eich trin yn deg ac yn unol â’n hymrwymiad i gydraddoldeb.
Os byddwch yn gofyn i ni am wasanaeth am y tro cyntaf – er enghraifft, rhoi gwybod am olau stryd diffygiol neu geudwll – dylech roi cyfle i ni ddatrys y broblem. Os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, a'ch bod yn dweud hynny wrthym, yna byddwn yn trin yr achos fel cwyn.
Byddwn yn sicrhau bod eich cwyn yn cael ei hanfon i’r adran/adrannau perthnasol er mwyn i chi gael ymateb, a byddwn yn gofyn iddynt wneud y canlynol:
- cydnabod eu bod wedi cael eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law,
- ceisio datrys eich cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith,
- rhoi gwybod i chi os allai gymryd mwy nag 20 diwrnod gwaith i ymchwilio i’ch cwyn.
Byddant yn rhoi gwybod i chi pa mor hir y dylai gymryd i’w datrys yn ogystal â’r newyddion ddiweddaraf.
Gallwch gysylltu â’r Ombwdsmon unrhyw bryd, ond mae’n argymell i chi roi cyfle i’r Cyngor ddelio â’ch cwyn yn gyntaf.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
1 Ffordd yr Hen Gae,
Pencoed,
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203 (bydd galwadau i’r rhif hwn ar gyfradd leol)
Ffacs: 01656 641199
Ni fydd rhai defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn penderfyniad a wnaed mewn perthynas â'u pryderon neu gallant gysylltu â'r Cyngor yn barhaus am yr un mater. Gall hyn arwain at ofynion afresymol ar y Cyngor neu ymddygiad annerbyniol tuag at staff y Cyngor. Gall camau gweithredu parhaus o du'r defnyddwyr gwasanaeth gymryd swm anghymesur o amser ac adnoddau a all effeithio ar allu'r Cyngor i wneud ei waith a darparu gwasanaeth i eraill. Derbynnir y gall rhai pobl ymddwyn yn groes i'w cymeriad pan fydd pryder neu drallod.
Fodd bynnag, ystyrir camau gweithredu gan ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n flin, anodd neu'n gyson yn gwbl annerbyniol a gall arwain at gyfyngu ar y cyswllt gyda'r Cyngor. Mae'r
polisi ymddygiad annerbyniol gan gwsmeriaid (487kb PDF) yn rhestru'r camau gweithredu y mae'r Cyngor yn eu hystyried yn annerbyniol.
Os hoffech anfon cwyn atom am weithiwr, tîm neu wasanaeth y cyngor, cwblhewch y ffurflen gyswllt ar y dudalen hon.
Mae ein hadroddiad adborth blynyddol yn manylu ar y cwynion a’r ganmoliaeth a dderbyniwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol.
Adroddiad Adborth Blynyddol 2021 i 2022Adroddiad Adborth Blynyddol 2020 i 2021
Adroddiad Adborth Blynyddol 2019 i 2020