Os yw aelodau'n credu bod penderfyniad swyddogol wedi'i wneud yn anghywir, gallant ei alw i mewn.
Os cytunir ar eu cais am alw i mewn, mae'r pwyllgor craffu perthnasol yn cyfarfod i archwilio'r penderfyniad ac a ydynt yn credu y dylai'r Cabinet neu'r Cyngor Llawn ailystyried y penderfyniad.
Mae Pwyllgorau Craffu yn ystyried yr adroddiadau Asesu'r Effaith ar Gydraddoldeb sydd ar gael i sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu hystyried.
Mae Pwyllgorau Craffu yn ceisio sicrhau bod grwpiau lleiafrifol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu cynnwys yn eu gwaith.