cynllun o’r eiddo atodlen gweithredu (disgrifiad byr o sut fydd yr eiddo yn gweithredu’n ddiogel ac yn unol â’r pedwar nod trwyddedu) y ffi gywir Copi o lyfr rheolau’r clwb
Rhaid i’r ceisydd hefyd gyflwyno copi o’r cais (gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol) i’r
awdurdodau cyfrifol ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gyflwyno i adran drwyddedu’r cyngor.
Pennwyd costau ffioedd gan y Llywodraeth Ganolog. Mae’r ffioedd yn seiliedig ar
werth ardrethol annomestig (NDRV)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
y safle. Gallwch weld pob ffi yn
ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Caiff safleoedd heb NDRV eu rhoi ym Mand A at ddibenion ffioedd trwyddedu. Caiff safleoedd sy’n cael eu hadeiladu ac sydd heb eu hasesu gan y VOA eu hystyried yn eiddo Band C.
Gallwch dalu fel a ganlyn:
Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Y cyfnod ymgynghori ar gyfer ceisiadau grant/amrywio llawn yw 28 diwrnod wedi i’r cais ddod i law. Os na chawn sylwadau perthnasol o fewn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno’r drwydded.
Rhaid i sylwadau ymwneud ag un neu fwy o’r amcanion trwyddedu, sef:
- atal trosedd ac anrhefn
- atal niwsans cyhoeddus
- diogelwch y cyhoedd
- amddiffyn plant rhag niwed
Os cawn sylwadau perthnasol am y cais gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu’r cyngor yn ystyried y cais ac yn cynnal gwrandawiad o fewn 20 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Efallai na fydd angen gwneud hyn os gall y ceisydd ddod i gytundeb â’r gwrthwynebwyr cyn y gwrandawiad.
Os cynhelir gwrandawiad, gall y Dystysgrif gael ei dyfarnu, neu ei dyfarnu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau y mae angen eu trwyddedu yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod. Byddwn yn anfon y penderfyniad at y ceisydd ac unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.
Mae’r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn.
Datganiad o Bolisi Deddf Trwyddedu (457kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd