Os ydych yn trefnu digwyddiad dros dro a’ch bod am weini neu werthu alcohol, cynnig lluniaeth yn yr hwyrnos, neu gyflwyno adloniant wedi’i reoleiddio, bydd angen i chi gwblhau hysbysiad digwyddiad dros dro.
Rhaid cyflwyno hysbysiadau o leiaf ddeng diwrnod gwaith clir cyn y digwyddiad. Nid yw diwrnodau gwaith clir yn cynnwys y diwrnod y daw eich cais i law’r cyngor na dyddiad y digwyddiad. Mae’r cyfyngiadau canlynol yn berthnasol i hysbysiadau:
- y cyfnod hiraf a ganiateir ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yw 168 awr (saith diwrnod)
- Ni chaniateir mwy na 20 Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro mewn unrhyw safle fesul blwyddyn galendr
- ni ddylai digwyddiadau bara mwy na 26 o ddiwrnodau mewn un safle
- rhaid gadael o leiaf 24 awr rhwng Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro ar unrhyw safle
- ni fydd mwy na 499 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg
- gall deiliad trwydded bersonol wneud cais am hyd at 50 o Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro mewn unrhyw flwyddyn galendr (gan gynnwys 10 hwyr)
- ni all deiliad trwydded arall wneud cais am fwy na 5 hysbysiad digwyddiad dros dro mewn unrhyw flwyddyn galendr (gan gynnwys 2 hwyr)
Sylwer bod yn rhaid anfon copi o'r Hysbysiad Amgylcheddol Technegol i adran rheoli llygredd y cyngor ac i'r Heddlu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn anfon yr hysbysiad i'r adran drwyddedu.
Os yw'r HAT yn cael ei gyflwyno ar
wefan y llywodraeth Dolen yn agor mewn ffenestr newydd, yna nid oes angen i chi anfon y copïau hyn.
Dylid nodi nad yw hysbysiad digwyddiad dros dro yn eithrio’r safle o unrhyw ofynion dan ddeddfwriaeth gynllunio.
Hysbysiadau Digwyddiadau Dros Dro Hwyr
Bwriedir i hysbysiadau hwyr gael eu defnyddio gan berchenogion safleoedd y mae’n rhaid iddynt, er enghraifft, newid y lleoliad ar fyr rybudd am resymau y tu allan i’w rheolaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid eu defnyddio.
Mae modd dyfarnu hysbysiadau digwyddiadau dros dro hwyr hyd at bum diwrnod gwaith (ond nid yn gynt na 9 diwrnod gwaith) cyn i’r digwyddiad ddechrau.
Sut i wneud cais
Gwneud Cais Ar-lein
Gwneud cais drwy’r post
Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch gopi i
bob un o'r canlynol (ffurflen yn unig, aiff unrhyw daliadau i Gyngor Caerdydd):
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Prif Swyddog yr Heddlu yn BCU y Dwyrain
Swyddfa'r Heddlu Bae Caerdydd (Adran Drwyddedu)
James Street
Caerdydd
CF10 5EW
Rheolwr Gweithredol
Rheoli Llygredd
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Ffi hysbysiad digwyddiad dros dro yw £21.
Ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Gallwch dalu fel a ganlyn:
Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Unwaith y daw eich cais am hysbysiad digwyddiad dros dro i law, caiff pawb sy’n ei gael 3 diwrnod gwaith i’w wrthwynebu ar sail unrhyw un o’r pedwar amcan trwyddedu:
- atal trosedd ac anrhefn
- atal niwsans cyhoeddus
- diogelwch y cyhoedd
- amddiffyn plant rhag niwed
Os nad oes gwrthwynebiad, gall y digwyddiad gael ei gynnal fel y bwriadwyd.
Os oes gwrthwynebiad, byddwn yn trefnu gwrandawiad i ystyried y dystiolaeth a gallwn benderfynu na fydd modd cynnal eich digwyddiad. Os oes gwrthwynebiad i hysbysiad digwyddiad dros dro a gyflwynwyd yn hwyr, ni fydd modd cynnal y digwyddiad.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni
Cysylltu â ni
029 2087 1651