Nid oes angen i chi gael trwydded bersonol i gael eich cyflogi mewn tafarn neu fusnes arall sy’n gwerthu alcohol, ond rhaid i safle sydd wedi’i drwyddedu i werthu alcohol gael Goruchwylydd Safle Dynodedig sydd â thrwydded bersonol.
Er mwyn gwneud cais am Drwydded Bersonol, rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn a meddu ar gymhwyster trwyddedu perthnasol.
Mae rhestr lawn o ddarparwyr cymwysterau trwydded bersonol ar gael ar
GOV.UK Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno
ffurflen ddatgelu erlyniad troseddol sylfaenol.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Os ydych yn gwneud cais am drwydded bersonol, rhaid i chi ennill cymhwyster achrededig yn gyntaf. Nod y cymhwyster yw sicrhau bod deiliad trwydded yn ymwybodol o gyfraith trwyddedau a chyfrifoldebau cymdeithasol ehangach gwerthu alcohol.
Darllen rhestr o ddarparwyr cymwysterau trwydded bersonolDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Sut i wneud cais
Mae’r ffurflenni perthnasol a rhagor o wybodaeth ar gael yma:
Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a’i dychwelyd atom (yn y post neu mewn person):
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Oriau Agor
Dydd Llun i dydd Gwener: 10:00am – 3pm
Ffi trwydded bersonol yw £37.
Y ffi ar gyfer diweddaru cyfeiriad neu gael trwydded newydd yw £10.50.
Ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Gallwch dalu fel a ganlyn:
- Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
- Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
- BACS:
Cod Didoli 30-91-63
Rhif y Cyfrif. 01467509
Cyfeiriad: Banc Lloyds CCC, 1 Heol-y-Frenhines, Caerdydd, CF10 2AF
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Os nad oes gennych unrhyw gollfarnau, eich bod wedi’ch hyfforddi’n addas a’ch bod dros 18 oed, does dim rheswm pam na ddylech allu cael trwydded bersonol.
Mae gan yr heddlu 14 diwrnod i wrthwynebu cais. Os na fydd yr heddlu’n gwrthwynebu a bod y cais yn bodloni’r holl feini prawf, caiff y drwydded ei dyfarnu.
Unwaith i chi gael y drwydded, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Awdurdod am unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad. Mae’n drosedd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i beidio â gwneud hynny.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni
029 2087 1651