Yn ogystal â’r cyrsiau yn yr ysgol, cynhelir cyrsiau Hyfforddiant Beicio Safon Genedlaethol yn ystod gwyliau’r ysgol yn y Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd ym Maendy.
Mae’r cwrs ar agor i bob plentyn yng Nghaerdydd naw oed neu’n hŷn sydd yn gallu reidio ac sy'n berchen ar eu beic eu hunain. Mae’r cwrs yn rhedeg am bedwar bore neu brynhawn.
Lefel 1 i gael eu dysgu a’u hasesu ar Ddydd Llun gan ddefnyddio cynllun hyfforddiant ffordd y Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd.
Lefel 2 i ddigwydd ar ffyrdd a aseswyd o ran risg gerllaw'r Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd ym Maendy.
Byddwch yn ymwybodol
na ellir mynd â phlant ar y tri sesiwn hyfforddi
ar y ffordd oni bai eu bod wedi cwblhau
Lefel 1
yn llwyddiannus.
Rhaid i bawb sy'n cymryd rhan ddod â'u beic a'u helmed eu hunain.
Mae’r cwrs hwn wedi ei anelu at blant na all reidio beic. Bydd plant yn dysgu mewn grwpiau bach iawn sut i fagu cydbwysedd a throi’r beic yn llwyddiannus. Os cyflawnir hyn, yna cânt eu haddysgu Amcanion Hyfforddi Lefel 1 y Safonau Beicio Cenedlaethol.
Mae angen talu £20 fesul plentyn i gadw lleoedd.