Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Menter Swyddog Iau Diogelwch ar y Ffyrdd

​Nod ein Menter Swyddog Iau Diogelwch ar y Ffyrdd yw tanlinellu i rieni a gwarchodwyr y peryglon sydd ynghlwm â pharcio a thagfeydd traffig ger mynedfeydd ysgolion.


Mae nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd yn cymryd rhan yn y fenter ac i addysgu cymuned yr ysgol ar ddiogelwch ar y ffyrdd.


Mae swydd bwysig gan Swyddogion Iau Diogelwch ar y Ffyrdd (SIDayFf) mewn ysgolion cynradd wrth iddynt helpu i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo materion diogelwch ar y ffyrdd i bawb yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.


Mae’r tasgau y bydd y SIDayFf yn cyfranogi ynddynt yn cynnwys:

  • Cynnal cynulliadau diogelwch ar y ffyrdd a sgyrsiau dosbarth i addysgu’r ysgol ar bynciau diogelwch ar y ffyrdd.
  • Cynnal hysbysfwrdd SIDayFf i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
  • Cynnal cystadlaethau yn yr ysgol i hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd.
  • Cymryd rhan yn y gwaith o drefnu gweithgareddau teithio llesol a diogel.
  • Helpu i wireddu cynllun teithio’r ysgol.
  • Gweithio gyda thîm parcio’r cyngor i addysgu rhieni a gofalwyr ynghylch parcio diogel y tu allan i’w hysgol.


Os hoffech fwy o wybodaeth neu os am gymryd rhan yn y fenter SIDayFf yna Cysylltu â ni neu ffoniwch 029 2078 8521.


Cysylltu â ni

© 2022 Cyngor Caerdydd