Mae plant yn ddefnyddwyr ffordd sy’n hynod agored i niwed ac mae damweiniau Cerddwyr Ifanc ar eu huchaf pan fônt yn 12 oed. Mae hyn yn cyd-daro â phontio o’r ysgol gynradd i ysgol uwchradd.
Nod y cynllun Streetwise yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd i sicrhau bod gan blant y sgiliau angenrheidiol er mwyn teithio i’w hysgol uwchradd.
Mae gan gynllun Streetwise 2 darpariaeth addysg y byddwn yn eu darparu i ysgolion yng Nghaerdydd.
Mae’r Swyddogion Cymorth (diogelwch Ffyrdd a Hyfforddiant) yn rhoi hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd i blant yn yr ystafell ddosbarth. Maent yn dysgu plant am ddiogelwch ar y ffyrdd. Maent yn mynd dros sut mae defnyddio ac ymddwyn ar y bws, sut i gerdded a beicio yn ddiogel, sut i ymddwyn gerllaw’r ffordd a sut i gynllunio siwrne.
Mae’r Swyddogion Cymorth (Diogelwch ar y Ffyrdd a Hyfforddiant) yn cynnig hyfforddiant ymarferol i gerddwyr i ddisgyblion blwyddyn 6 mewn grwpiau bychain trwy gydol y flwyddyn. Mae’r hyfforddiant wedi ei deilwra i anghenion teithio’r disgyblion a’r llwybrau y byddant yn eu cymryd i ysgolion uwchradd, ond sy’n cynnwys sut mae croesi’n ddiogel ger cyffyrdd a sut mae defnyddio croesfannau i gerddwyr.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu os ydych am gymryd rhan yn y fenter Streetwise yna Cysylltu â ni neu ffoniwch 029 2078 8521.
Cysylltu â ni