Mae ein hyfforddwyr yn gymwys i addysgu tair lefel yr Hyfforddiant Beicio Cenedlaethol Safonol.
Dechreuwyr (lefel 1)
Mae hyn yn cynnwys:
- gwirio eich beic a’ch dillad
- sicrhau bod eich helmed yn ffitio
- esgyn a dod oddi ar eich beic
- cychwyn ac aros yn ddiogel
- rheoli eich beic a rheoli’r beic wrth arwyddo, ac edrych yn ôl
Caiff yr hyfforddiant ei wneud mewn amgylchedd sydd yn rhydd o draffig
Canolradd (lefel 2)
Disgwylir i’r hyfforddeion ddod i gasgliadau a gwneud penderfyniadau ar gyffyrdd ac ar ffyrdd sydd â thraffig wrth droi i’r dde ac i’r chwith.
Profiadol (lefel 3)
Disgwylir i hyfforddeion fynd i’r afael â pheryglon a gwneud penderfyniadau ar ffyrdd pwysig a sefyllfaoedd cymhleth yn ymwneud â chylchfannau a goleuadau traffig mewn traffig trwm.
Cyflwynir y lefelau hyn fel arweiniad.
Ar ddechrau’r sesiwn, bydd ein hyfforddwyr yn asesu lefel eich cymhwysedd ac yn sgwrsio â chi ynghylch yr hyn yr hoffech ei gael allan o’r hyfforddiant. Gallan nhw wedyn ei deilwra ar gyfer eich anghenion penodol.
Costau
MMae ein sesiynau hyfforddi un-i-un awr o hyd yn gwbl rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd.
Yr hyn ddylech ddod gyda chi
- Eich beic. Rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n berchen ar feic
- Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo helmed a dillad llachar
Cadw lle ar hyfforddiant beicio
I archebu hyfforddiant beicio, llenwch y ffurflen cysylltu â ni.
Cysylltu â ni
Canslo ac Aildrefnu
Os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu sesiwn, rhowch 24 awr o rybudd i’n hyfforddwyr. Yn anffodus os byddwch yn methu â gwneud hynny ni fyddwn yn gallu cynnig hyfforddiant i chi yn y dyfodol.
Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 ni fyddwn yn gallu cynnal unrhyw gyrsiau Dysgu Beicio. Gall pob cwrs arall fynd yn ei flaen gan lynu wrth ganllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru. Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu cynnal ar bob adeg.