Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hyfforddiant Beic Modur

​​​​Mae beiciau modur yn cynnig cludiant personol effeithlon a fforddiadwy i lawer o bobl yn ardal Caerdydd. Fodd bynnag, beicwyr modur yw’r grŵp uchaf eu risg ar y ffordd.


Mae amrywiol adnoddau a chyrsiau hyfforddi yn bodoli i alluogi beicwyr profiadol i wella eu sgiliau a chadw’u hunain yn ddiogel, neu i helpu cyd feicwyr modur a fu mewn damwain.


Mae BikeSafe yn fenter gaiff ei chynnal gan Luoedd yr Heddlu o amgylch y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda holl gymuned y beiciau modur i leihau nifer y gyrwyr beiciau modur gaiff eu hanafu. Drwy drosglwyddo eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, gall beicwyr modur yr heddlu eich helpu i ddod yn yrrwr mwy cymwys. 


Mae hwn yn gwrs undydd, a gaiff ei gynnal ar ddydd Sadwrn, a chaiff llefydd gymhorthdal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru.

Ewch i wefan BikeSafe​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd am fwy o wybodaeth.

Mae’r cynllun Scooter Smart and Commuter Safe hwn yn derbyn cymhorthdal gan Gyngor Caerdydd fel rhan o Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd Llywodraeth Cymru ac o’r herwydd mae ar gael am ddim.  Mae’n cynnwys diwrnod hyfforddi 7 awr, sy’n dechrau gyda thrafodaeth grŵp yn y dosbarth a chyflwyniad, a gaiff ei arwain gan y cyfranogwyr ond sydd hefyd yn cynnwys pynciau megis:


  • Trylifo,
  • Defnyddio Lonydd Bysiau,
  • cyffyrdd,
  • SMIDSYs (the ‘Sorry Mate I Didn’t See You’ syndrome),
  • safle,
  • sgiliau arsylwi,  
  • gyrru amddiffynnol a mwy.  


    Caiff gweddill y diwrnod ei dreulio allan ar y ffordd.


    I gadw lle ar un o’r cyrsiau hyn cysylltwch â www.1stclassrider.co.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu www.crtwales.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

    Mae Biker Down yn gwrs gaiff ei redeg gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Mae wedi ei anelu yn bennaf at y gymuned beiciau modur gyda’r ffocws ar gyfrannu at leihau nifer y bobl a gaiff eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau beiciau modur.

    Caiff y cwrs ei gynnal gan Ymladdwyr Tân Gweithredol ac mae tri modiwl iddo.

    • Rheoli Safle Damwain
    • Cymorth Cyntaf
    • Gwyddoniaeth Cael eich Gweld


    Nod y cwrs yw rhoi dealltwriaeth well i gyfranogwyr o’r hyn y dylid ei wneud os dônt ar draws gwrthdrawiad ffordd a sut i’w reoli yn ddiogel.

    Am fyw o wybodaeth ewch i dudalen gwybodaeth Biker Down ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

    Mae’r rhain o faint cerdyn credyd ac yn cynnwys gwybodaeth elfennol am y beiciwr i helpu’r Gwasanaethau Brys.


    Caiff y cerdyn ei gadw yn leinin ochr dde’r helmed ac fe’i nodir gan sticer smotyn gwyrdd a gaiff ei roi fel rhan o’r cynllun. Mae’r cardiau hyn ar gael am ddim gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd a Hyfforddiant.


    Mae hwn yn gynllun Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru a gaiff ei gefnogi gan MAG, awdurdodau lleol Cymru, y gwasanaethau Ambiwlans, Tân ac Achub a’r Heddlu.



    Cysylltu â ni
    © 2022 Cyngor Caerdydd