Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Canllawiau Cynllunio Ategol

​ ​​​​Cynhyrchir Canllawiau Cynllunio Ategol  i roi manylion pellach ar bolisïau a chynigion penodol sydd yng Nghynllun Datblygu Caerdydd.  Maent yn helpu i sicrhau y caiff polisïau a chynigion penodol eu deall yn well a’u gweithredu’n effeithiol.

Nid oes gan Ganllawiau Cynllunio Ategol yr un statws neu’r un gwerth â pholisïau Cynllun Datblygu a fabwysiadwyd. Ond, mae’r Llywodraeth yn dweud y gallant gael eu hystyried fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

Ar ôl CDLl yn ddiweddar ar 28 Ionawr, 2016, bydd rhaglen o ddiweddaru ac adolygu Canllawiau Cynllunio Ategol  a gymeradwywyd yn flaenorol sy’n seiliedig ar y rhai y cyfeiriwyd atynt ym mhroses Archwilio'r CDLl – Yn ogystal ag eraill a nodwyd yn fwy diweddar fel blaenoriaethau. Unwaith y mae'r Canllawiau Cynllunio Ategol diweddaraf wedi’u paratoi, byddant yn cymryd lle Canllawiau Cynllunio Ategol blaenorol sy’n ymwneud â’r pwnc hwnnw.

Y brif sail polisïau ar gyfer asesu datblygiad cynigion fydd polisïau a chanllawiau Cenedlaethol ynghyd â pholisïau a nodir yn y CDLl. Ond, cyn i’r Canllawiau Cynllunio Ategol diweddaraf gael eu paratoi, bydd yn parhau i fod yn ystyriaeth i’r broses Rheoli Datblygu, lle ystyrir bod y Canllawiau Cynllunio Ategol cyfredol yn gyson â’r fframwaith polisïau CDLl newydd .  


 

Ymgynghoriadau Canllawiau Cynllunio Atodol Presennol
 


 

Dyma restr o CCAau a gymeradwywyd 

 

 

Mae cyfres o Arfarniadau Ardal Gadwraeth wedi’u mabwysiadu ac ar gael i’w gweld.​ Mae’r dogfennau’n nodi’r hyn sy’n arbennig am bob ardal ac yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar y rheolaethau sydd ar waith.

Cysylltu â ni
​​​​​​​​​​​​​​​​​​ ​
© 2022 Cyngor Caerdydd