Rydym yn eich annog i gyflwyno eich cais cynllunio ar-lein os yn bosibl trwy Ceisiadau Cynllunio CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Mae Ceisiadau Cynllunio Cymru yn wefan genedlaethol ar gyfer pob caniatâd cynllunio a gwybodaeth yng Nghymru. Mae’r wybodaeth a’r gwasanaethau a gynigir wedi’u dylunio i berchnogion cartref, busnesau, gweithwyr proffesiynol cynllunio a swyddogion Llywodraeth.
Mae Cyngor Caerdydd yn gwbl integredig â Ceisiadau Cynllunio Cymru.
Ar wefan Ceisiadau Cynllunio Cymru gallwch:
- ymgeisio am ganiatâd cynllunio
- dysgu am y system gynllunio
- dysgu am ddatblygiad
- apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio
- ymchwilio i bolisi llywodraeth diweddaraf
- darllen a lawrlwytho canllawiau cymorth
- ffurflenni a dogfennau eraill