Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer Casgliadau a Chyfleusterau Storio Gwastraff yn helpu cynllunwyr, datblygwyr a phenseiri i gynllunio systemau storio a chasglu priodol ar gyfer ailgylchu a gwastraff mewn datblygiadau masnachol a domestig.
Prynu'r cynwysyddion gwastraff cywir ar gyfer eich datblygiad
Rhaid i chi brynu biniau olwynion 140 litr a 240 litr gennym ni.
Gallwch brynu biniau swmp 660 a 1100 litr gan unrhyw gyflenwr ar yr amod eu bod yn bodloni ein manyleb. Diben hyn yw sicrhau bod biniau'n gydnaws â'n cerbydau casglu ac yn cydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch.
Os nad yw cynwysyddion gwastraff yn ddiogel i'w casglu, rydym yn cadw'r hawl i wrthod casglu nes bod y manylebau biniau wedi'u bodloni.
Prisiau Biniau
Bin olwynion gwastraff cyffredinol 140 litr | £25 (+ TAW) |
Bin olwynion gwastraff gardd 140 litr | £35 (+ TAW)
|
Bin olwynion gwastraff cyffredinol 240 litr | £25 (+ TAW) |
Bin olwynion gwastraff gardd 240 litr | £35 (+ TAW)
|
Bin mawr 660 litr | £375 (+ TAW) |
Bin mawr 1100 litr | £470 (+ TAW) |
Ni chodir tâl am gadis bwyd 7 litr a 25 litr.
Manylebau cadis bwyd
Cadi cegin 7 litr
- Maint – uchder 234mm, lled 271mm, dyfnder 229mm
- Deunydd – Plastig
- Lliw ffrwd gwastraff – Brown (compost)
Cadi ymyl y ffordd 25 litr
- Maint – uchder 405mm, lled 400mm, dyfnder 345mm
- Deunydd – Plastig
- Lliw ffrwd gwastraff – Brown (compost)
Manylebau biniau olwynion
Bin olwynion 140 litr
- Uchder 950mm, lled 500mm, dyfnder 535mm
- Deunydd – Plastig
- Olwynion – 2
- Lliw ffrwd gwastraff – Du (cyffredinol) neu wyrdd (compost)
Bin olwynion 240 litr
- Uchder 1100mm, lled 580mm, dyfnder 740mm
- Deunydd – Plastig
- Olwynion – 2
- Lliw ffrwd gwastraff – Du (cyffredinol) neu wyrdd (compost)
Manylebau biniau swmp
Bin swmp 660 litr
- Uchder 1330mm, lled 1250mm, dyfnder 720mm
- Deunydd – Dur
- Olwynion – 4
- Lliw ffrwd gwastraff – Arian (cyffredinol) neu wyrdd llachar (ailgylchu)
Bin swmp 1100 litr
- Uchder 1475mm, lled 1250mm, dyfnder 980mm
- Deunydd – Dur
- Olwynion – 4
- Lliw ffrwd gwastraff – Arian (cyffredinol) neu wyrdd llachar (ailgylchu)
Paratoi eich safle ar gyfer casgliadau
Os ydych wedi cael caniatâd cynllunio ar y sail y darperir storfa finiau neu y bydd y datblygiad yn defnyddio biniau swmp 1100 neu 660 litr, bydd angen i ni gynnal asesiad storfa finiau cyn y gellir dosbarthu biniau neu ddechrau casglu gwastraff.
Diben hyn yw sicrhau y gellir casglu gwastraff yn ddiogel, a bod eich datblygiad wedi'i adeiladu yn unol â'r amodau cynllunio.
Bydd angen i chi ganiatáu o leiaf 8 wythnos ar gyfer cwblhau’r broses hon, o’r cyswllt cychwynnol hyd nes dosbarthu’r biniau. Rhaid i chi gysylltu â ni cyn i breswylwyr symud i mewn.
I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno cais cynllunio, darllenwch y Canllawiau Cynllunio Atodol.
Dyraniadau biniau ar gyfer tai a fflatiau
Darpariaethau biniau ar gyfer tai amlfeddiannaeth
1-5
| Bags (140L)
| 1 x 240L
| 240L
| 1 x 25L
|
6-8
| Bags (240L) | 1 x 240L a 1 x 140L
| 240L
| 2 x 25L |
9-10
| Bags (380L)
| 2 x 240L
| 240L
| 3 x 25L
|
Lle y bo'n bosibl, dylid adeiladu storfa finiau i storio'r biniau ar gyfer tai.
Darpariaeth biniau ar gyfer tai sy'n cael eu haddasu'n fflatiau
3
| dd/b
| 1 x 240L a 1 x 140L
| 240L
| 1 x 25L
|
4
| dd/b
| 2 x 240L
| 240L
| 2 x 25L
|
5
| dd/b
| 3 x 240L
| 240L
| 2 x 25L
|
6
| dd/b
| 3 x 240L a 1 x 140L
| 240L
| 240L
|
7
| dd/b
| 4 x 240L
| 240L
| 240L
|
8
| dd/b
| 4 x 240L a 1 x 140L
| 240L
| 240L
|
9
| dd/b
| 5 x 240L
| 240L
| 240L
|
Ar gyfer tai sy’n cael eu haddasu’n fflatiau, y dewis a ffefrir yw dyrannu biniau unigol
Darpariaeth biniau ar gyfer datblygiadau mawr o fflatiau pwrpasol
5
| 660L
| 660L
| 240L
| dd/b
|
10
| 1100L
| 1100L
| 240L
| 5m2
|
15
| 2200L
| 2200L
| 240L
| 5m2
|
20
| 2200L
| 2200L
| 240L
| 5m2
|
25
| 3300L
| 3300L
| 480L
| 5m2
|
30
| 4400L
| 4400L
| 480L
| 5m2
|
35
| 4400L
| 4400L
| 480L
| 5m2
|
40
| 5500L
| 5500L
| 480L
| 5m2
|
45
| 6600L
| 6600L
| 720L
| 10m2
|
50
| 6600L
| 6600L
| 720L | 10m2 |
Ni ddarperir biniau gwastraff gardd gan y rhagdybir nad oes gan y fflatiau erddi nac ardaloedd amwynder unigol. Os oes gan y datblygiad arfaethedig erddi unigol, gellir darparu biniau 240L ar gais.
*Ni chaiff cynwysyddion olwynion ar gyfer gwastraff bwyd fod yn fwy na 240L, oherwydd y pwysau a’r goblygiadau iechyd a diogelwch ar weithredwyr casgliadau.
Darpariaeth biniau ar gyfer datblygiadau mawr o fflatiau stiwdio neu fflatiau clwstwr
10
| 1100L
|
1100L
| 240L
|
5m2
|
20
|
2200L
| 2200L
| 240L
| 5m2
|
30
| 2200L
| 2200L
| 240L
| 5m2
|
40
| 3300L
| 3300L
| 480L
| 5m2
|
50
| 3300L
| 3300L
| 480L
| 5m2
|
60
| 4400L
| 4400L
| 480L
| 10m2
|
70
| 4400L
| 4400L
| 480L
| 10m2
|
80
| 5500L
| 5500L
| 720L
| 10m2
|
90
| 5500L
|
5500L
| 720L
| 10m2
|
100
| 6600L
| 6600L
| 720L | 10m2
|
Ni ddarperir biniau gwastraff gardd gan y rhagdybir nad oes gan y fflatiau erddi nac ardaloedd amwynder unigol. Os oes gan y datblygiad arfaethedig erddi unigol, gellir darparu biniau 240L ar gais.
*Ni chaiff cynwysyddion olwynion ar gyfer gwastraff bwyd fod yn fwy na 240L, oherwydd y pwysau a’r goblygiadau iechyd a diogelwch ar weithredwyr casgliadau.
Gorfodi Gwastraff, Depo Ffordd Lamby, Ffordd Lamby, Tredelerch, Caerdydd CF3 2HP