Mae nifer o adeiladau pwysig, gweddillion archeolegol a mannau agored Caerdydd wedi’u gwarchod er mwyn diogelu cymeriad arbennig y ddinas.
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi’i gyhoeddi ar gyfer Rompney Castle ar Heol Gwynllŵg. Mae hyn yn dileu’r hawliau datblygu a ganiatawyd ar gyfer dymchwel ac addasiadau eraill.
Gwelwch y cyfarwyddyd a’r map (1.5mb PDF). Mynegwch eich barn ar y mater hwn drwy’r ffurflen cysylltu â ni.
Ardaloedd Cadwraeth
Mae gan Gaerdydd 27
ardal gadwraeth (PDF 483 KB)
Dolen yn agor mewn ffenestr newydd a ddynodwyd yn rhai o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol arbennig. Defnyddiwch y
mapDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd i weld a yw eiddo mewn ardal gadwraeth.
Mae rheolaethau cynllunio cenedlaethol yn gysylltiedig ag eiddo mewn ardal gadwraeth, ac mae canllawiau ar y rheolau hyn ar gael ar y
Porth CynllunioDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Mae gan nifer o ardaloedd Gyfarwyddyd Erthygl 4, sy’n gosod rheolaethau ychwanegol dros amrywiaeth o fân addasiadau eraill fel
addasiadau i ffenestri (PDF 866 KB)
Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. Dyma
restr o seiri sy’n arbenigo mewn atgyweirio ac ailgynhyrchu ffenestri a drysau traddodiadol.
Os ydych yn ystyried newid eich eiddo ac yr hoffech gael cyngor, gofynnir i chi gyflwyno
ymholiad cyn gwneud cais.
Hefyd, mae angen caniatâd i wneud
gwaith ar goed mewn ardaloedd cadwraeth.
Mae’r dogfennau isod yn disgrifio cymeriad pob ardal gadwraeth ac yn cynnig gwybodaeth am y rheolaethau sydd ar waith.
Parciau a Gerddi Hanesyddol
Mae 18 parc a gardd yng Nghaerdydd sydd ar
Gofrestr CadwDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
Mae’r gofrestr statudol yn cynnig gwybodaeth i helpu i ddiogelu a chadw’r lleoedd arbennig hyn, y mae 12 ohonynt yn barciau cyhoeddus.
Gallwch weld parciau a gerddi hanesyddol Caerdydd ar y
mapDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Adeiladau Rhestredig
Mae tua 1,000 o adeiladau rhestredig yng Nghaerdydd.
Gallwch ddysgu a yw adeilad yn un rhestredig ar fapDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Mae adeiladau’n cael eu rhestru gan
CadwDolen allanol yn agor mewn ffenest newyddi sicrhau bod eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig yn cael ei gydnabod yn llawn yn y system gynllunio. Mae angen
Caniatâd Adeilad RhestredigDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd pan fydd addasiad neu estyniad arfaethedig yn effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig neu adeiladau cyfagos. Mae angen
Datganiad Effaith ar DreftadaethDolen yn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer yr holl geisiadau Caniatâd Adeilad Rhestredig.
Cofiwch: Mae’n drosedd cyflawni gwaith ar adeilad a restrwyd yn statudol heb gael y Caniatâd Adeilad Rhestredig angenrheidiol yn gyntaf.
Arolwg rheoleiddiol Cadw ar gyflwr adeiladau rhestredig. Mae adroddiadau Adeiladau Mewn Perygl ar gael i’w hasesu a gyflawnwyd yn
2011 (4.1mb PDF)
Dolen yn agor mewn ffenestr newydd a
2015 (1.4mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Adeiladau Rhestredig Lleol
Mae tua 300 o adeiladau yng Nghaerdydd wedi’u rhestru’n lleol. Bwriad y rhestr hon yw sicrhau bod adeiladau lleol sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn cael eu cydnabod yn y system gynllunio.
Gweld adeiladau rhestredig lleol ar y mapDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Henebion
Mae gan Cadw 31 o
Henebion Cofrestredig (PDF 832 KB)
Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yng Nghaerdydd, o archeoleg cynhanesyddol i amddiffynfeydd o’r Ail Ryfel Byd. Gallwch weld y lleoliadau ar y
mapDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae’n drosedd cyflawni gwaith ar safle heneb gofrestredig heb gael caniatâd
Heneb GofrestredigDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd gan Cadw yn gyntaf.
Cysylltu â ni
Cysylltu â ni
Cadwraeth
Ystafell 223
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW