Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Darpariaeth ADY dinas gyfan

​​​​​​​​​​​Ar 28 Medi 2022, cyfarfu'r cabinet i drafod darpariaethau ADY yng Nghaerdydd.

Gallwch weld canlyniad y cyfarfod ynghyd â llythyrau penderfynu ac adroddiad o'r cyfarfod.​

Ysgolion Uwchradd yr Esgob Llandaf a' Eglwys Newydd

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cytuno i symud ymlaen i'r cam nesaf a gallwch weld eu hysbysiadau dirlawnder cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r hysbysiadau'n fyw o 30 Mehefin 2022 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau llawn o'r cynigion hyd at a chan gynnwys 27 Gorffennaf 2022.

Ysgolion Cymunedol​​​


Ar 10 Mawrth 2022, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor symud ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae’r hysbysiadau ar gyfer newidiadau arfaethedig i Ysgol Arbennig Meadowbank, Ysgol Gynradd Marlborough ac Ysgol Gynradd Springwood yn fyw o 08 Mehefin 2022 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i’r cynigion hyd at a chan gynnwys 05 Gorffennaf 2022.
M​anylion yr hysbysiadau​

HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 44 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, fod Cyngor Caerdydd (“yr Awdurdod”), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt yn briodol, yn cynnig newid Ysgol Arbennig Meadowbank, Colwill Road, Gabalfa, Caerdydd, CF14 2QQ fel a ganlyn:

  • ​Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98.

Cynigir gweithredu’r cynnig o Fedi 2022.

Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.

Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Gellir gweld adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn yn: 


Ar hyn o bryd, capasiti’r ysgol yw 40 o leoedd.   Nifer presennol y disgyblion yn yr ysgol yw 48. 

Capasiti arfaethedig yr ysgol ar ôl gweithredu'r cynnig fydd 98. 

Bydd yr ysgol yn parhau i ddarparu lleoedd i ddysgwyr 4-11 oed sydd ag anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu, ac anghenion dysgu cymhleth.  

Mae plant yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau cymysg a gallai’r niferoedd fesul grŵp oedran amrywio, ond ni fyddai’r cyfanswm yn uwch na 98.

Does dim cynlluniau i newid polisi’r Cyngor ar dderbyn plant i’r ysgol yn sgil y cynigion hyn.

Rheolir derbyniadau i’r ysgol gan yr awdurdod lleol, yn amodol ar ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) fel y bo’n briodol. 

Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.

O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 05 Gorffennaf 2022, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Nodwch fod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.

Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 7 niwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y penderfynir ar y cynnig.

Dyddiedig y 8ed o Mehefin 2022  

Llofnod:    Davina Fiore
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraethiant
a Swyddog Monitro Cyngor Caerdydd 


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)

Mae Ysgol Meadowbank yn ysgol arbennig sydd wedi'i lleoli yn Ystum Taf ar Colwill Road. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o bob rhan o'r awdurdod. 

Mae'r ysgol wedi'i dynodi ar gyfer hyd at 40 o leoedd i ddisgyblion 4 - 11 oed sydd ag anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu ac anghenion dysgu cymhleth.

Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu cymhleth, cynigir cynyddu'r nifer dynodedig o Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98 o fis Medi 2022.

Nifer y disgyblion yn yr ysgol yw 98 gyda'r plant ychwanegol yn cael lle yn y lleoedd dysgu presennol.
Cynigir y byddai gwaith yn cael ei wneud i ddarparu lleoedd dysgu a chyfleusterau newydd ac i addasu'r lleoedd dysgu presennol, er mwyn hwyluso twf yr ysgol.  Byddai hyn yn galluogi hyd at 98 o blant gael lle.

Yn ogystal â’r cynnydd arfaethedig mewn lleoedd dynodedig yn Ysgol Arbennig Meadownbank, mae lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymhleth a chyflwr sbectrwm awtistiaeth ar gyfer nifer o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol. 


HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, bod Cyngor Caerdydd ("yr Awdurdod"), ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol, yn cynnig newid Ysgol Gynradd Marlborough, Blenheim Road, Roath, Cardiff, CF23 5BU fel a ganlyn:

  • Cynyddu nifer dynodedig y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu difrifol a chymhleth yn Ysgol Gynradd Marlborough o 20 i 30 o leoedd.

Cynigir gweithredu’r cynnig o Fedi 2022.

Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.

Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Gellir gweld adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn yn: 


Ar hyn o bryd, capasiti’r ysgol yw 420 o leoedd ar gyfer plant 4-11 oed. Mae 64 o leoedd meithrin. Nifer presennol y disgyblion yn yr ysgol yw 443 (gan gynnwys plant sy'n mynychu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol) (4 – 11) a 64 (oed meithrin).

Mae 20 lle yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol. Nifer bresennol y disgyblion yn y ganolfan adnoddau arbenigol yw 28. 

Nid oes unrhyw gynlluniau i newid polisi'r Cyngor ar dderbyn plant i ysgolion o ganlyniad i'r cynigion hyn. 

Rheolir derbyniadau i’r ganolfan adnoddau arbenigol gan yr awdurdod lleol, yn amodol ar ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) fel y bo’n briodol. 

Byddai derbyniadau i'r ganolfan adnoddau arbenigol ar wahân i'r derbyniadau i'r brif ysgol a byddai'n ychwanegol at y Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC).

Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.

O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 05 Gorffennaf  2022, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Nodwch fod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.

Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 7 niwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y penderfynir ar y cynnig.

Dyddiedig y 8ed o Mehefin 2022  

Llofnod:    Davina Fiore
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraethiant
a Swyddog Monitro Cyngor Caerdydd 


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)

Er mwyn ateb y galw am leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr 4 -11 oed sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, cynigir cynyddu'r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Gynradd Marlborough o 20 i 30 o leoedd o fis Medi 2022. 

Gwnaed gwaith i addasu’r llety sy'n bodoli eisoes yn yr ysgol i gynyddu capasiti'r ganolfan adnoddau ac i ddarparu ystafell synhwyraidd.

Yn ogystal â'r cynnydd arfaethedig mewn lleoedd dynodedig yn y ganolfan adnoddau arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu difrifol a chymhleth yn Ysgol Gynradd Marlborough, cynigiwyd lleoedd pellach ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymhleth a chyflwr sbectrwm awtistiaeth ar gyfer nifer o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol. 


​​​


HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, bod Cyngor Caerdydd ("yr Awdurdod"), ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol, yn cynnig newid Ysgol Gynradd Springwood, Pennsylvania, Llanedern, Caerdydd, CF23 9LS fel a ganlyn:

  • Cynyddu nifer dynodedig y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer plant sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Springwood o 20 i 28 o leoedd.

Cynigir gweithredu’r cynnig o Fedi 2022.

Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.

Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Mae adroddiad ymgynghori sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn ar y newidiadau arfaethedig ar gael i'w weld yma: 


Ar hyn o bryd, capasiti’r ysgol yw 420 o leoedd ar gyfer plant 4-11 oed. Mae 48 o leoedd meithrin. Nifer cyfredol y disgyblion yn yr ysgol yw 231 (4-11) a 28 (oed meithrin). 

Mae 20 lle yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol. Nifer bresennol y disgyblion yn y ganolfan adnoddau arbenigol yw 28. 

Nid oes unrhyw gynlluniau i newid polisi'r Cyngor ar dderbyn plant i ysgolion o ganlyniad i'r cynigion hyn. 

Rheolir derbyniadau i’r ganolfan adnoddau arbenigol gan yr awdurdod lleol, yn amodol ar ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) fel y bo’n briodol. 

Byddai derbyniadau i'r ganolfan adnoddau arbenigol ar wahân i'r derbyniadau i'r brif ysgol a byddai'n ychwanegol at y Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC).

Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.

O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 05 Gorffennaf 2022, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk 

Nodwch fod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.

Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 7 niwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y penderfynir ar y cynnig.

Dyddiedig y 8ed o Mehefin 2022  

Llofnod:    Davina Fiore
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraethiant
a Swyddog Monitro Cyngor Caerdydd 



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)

Er mwyn ateb y galw am leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr 4 -11 oed sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, cynigir cynyddu'r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Gynradd Springwood o 20 i 28 o leoedd o fis Medi 2022. 

Gwnaed gwaith i wella ac addasu’r llety sy'n bodoli eisoes yn yr ysgol.

Yn ogystal â'r cynnydd arfaethedig mewn lleoedd dynodedig yn y ganolfan adnoddau arbenigol ar gyfer plant sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth yn Ysgol Gynradd Springwood, cynigiwyd lleoedd pellach ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymhleth a chyflwr sbectrwm awtistiaeth ar gyfer nifer o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol.  ​




Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i'r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk 

Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.



Hysbysiadau blaenorol​​​

​​Y cyfnod gwrthwynebu ar gyfer y cynigion hyn oedd 6 Mai i 2 Mehefin.

Ni fyddwn yn derbyn gwrthwynebiadau i’r cynigion hyn ar ôl hanner nos 2 Mehefin. Ni fydd unrhyw wrthwynebiadau a anfonir ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hystyried.

​Beth sy’n cael ei gynnig?

Er mwyn ateb y galw am ddarpariaeth arbenigol oedran cynradd, cynigir:

  • ​​​​Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig The Court o 42 i 72 o leoedd.  Byddai'r ysgol yn trosglwyddo i lety adeiladu newydd ar safle Ysgol Gynradd y Tyllgoed ac i safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, yn Llanrhymni, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) 20 lle ar gyfer plant oed cynradd ag Anghenion Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Moorland o fis Medi 2022.



​​

Dweud eich dweud​

Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r manylion arfaethedig.​



Fel rhan o’r ymgynghoriad rydym wedi trefnu cyfarfodydd ar-lein y gallwch eu mynychu lle caiff y newidiadau rydym yn eu cynnig eu hesbonio.  Cewch gyfle i ofyn cwestiynau fel rhan o'r sesiynau hyn.  




​​Ymgynghoriad
​Dyddiad a Amser
​Lleoliad
​Cyfarfod Cyhoeddus
Dydd Iau 9 Rhagfyr​ 2021 5pm

Cyfarfod Microsoft Teams
​Sesiynau galw heibio
​Ar gais drwy e-bost​
​​Cyfarfod Microsoft Teams
Os hoffech fynd i gyfarfod ar-lein cysylltwch â ni drwy e-bost ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk gan gadarnhau i ba gyfarfod yr hoffech fynd ac fe anfonwn ddolen atoch a chyfarwyddiadau ar sut y gallwch ddod i'r cyfarfod.

Fel arall, os oes gennych unrhyw ymholiad neu os hoffech gael anfon copi caled o’r ddogfen ymgynghori atoch yn uniongyrchol, cysylltwch a ni. 



​​029 2087 2720


​Beth sy’n cael ei gynnig?​

Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr ag anghenion iechyd emosiynol a llesiant rhwng 11 a 19 oed, bwriedir:
  • Cynyddu capasiti Ysgol Greenhill o 64 i 160 o leoedd
  • Trosglwyddo ysgol Greenhill i adeiladau newydd ar draws dau safle ar safle’r Dutch Garden Centre, Maes y Bryn Road (ger yr M4 Cyffordd 30) a Tŷ Glas Road yn Llanisien, gydag 80 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025.





Er mwyn ateb y galw am leoedd mewn canolfan adnoddau arbenigol i ddysgwyr 11 – 19 oed sydd ag anghenion emosiynol a llesiant, cynigir:
  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022
  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2022 


Dweud eich dweud​

Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r manylion arfaethedig







Fel rhan o’r ymgynghoriad rydym wedi trefnu cyfarfodydd ar-lein y gallwch eu mynychu lle caiff y newidiadau rydym yn eu cynnig eu hesbonio.  Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau fel rhan o'r sesiynau hyn.  


Sesiynau ymgynghori
Ymgynghoriad 
Dyddiad ac Amser
Lleoliad
Cyfarfod cyhoeddus are-lein

Dydd Mercher 12 Ionawr 
5:30pm
Microsoft Teams 
Sesiynau galw heibio
Ar gais drwy e-bostio

Microsoft Teams


Os hoffech fynd i gyfarfod ar-lein cysylltwch â ni drwy e-bost:
ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk 

Gan gadarnhau pa gyfarfod yr hoffech fynd iddo a byddwn yn rhoi dolen a chyfarwyddiadau i chi yn esbonio sut y gallwch gael mynediad i'r cyfarfod hwn.

Fel arall, os oes unrhyw ymholiad gennych neu os hoffech i ni anfon copi caled o’r ddogfen ymgynghori atoch yn uniongyrchol, cysylltwch â ni.




​​​


 

​Sylwer y bydd hysbysiadau statudol sy'n ymwneud ag ehangu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Arbennig Meadowbank, Ysgol Gynradd Marlborough ac Ysgol Gynradd Springwood yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach. 

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i'r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o'r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.​


© 2022 Cyngor Caerdydd