Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

​Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd wedi cytuno i symud ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi hysbysiadau dirlawnder cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r hysbysiadau hyn yn weithredol o 30 Mehefin 2022 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau llawn i'r cynigion hyd at a chan gynnwys 27 Gorffennaf 2022.​

Gwelwch Adroddiad Gwrthwynebu Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf o 23 Awst 2022​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.​


DEDDF SAFONAU A THREFNIADAETH YSGOLION (CYMRU) 2013

DARPARIAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL  

HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag Adran 42 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion,  fod Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf (“y Corff Llywodraethu” o hyn ymlaen), ar ôl ymgynghori â’r bobl a ymddangosai’n briodol ym marn y Corff Llywodraethu, yn cynnig newid Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Rookwood Close, Llandaf, Caerdydd, CF5 2NR fel a ganlyn:

  • Cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Canolfan Marion o 42 i 66.


Cynigir gweithredu’r cynnig o fis Medi 2022.

Mae’r ysgol yn ysgol uwchradd wirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru a gynhelir ar hyn o bryd gan Gyngor Caerdydd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ran y Corff Llywodraethu cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Mae’r adroddiad ar yr ymgynghoriad sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion y Corff Llywodraethu a barn Estyn ar y newidiadau arfaethedig ar gael i'w weld yma: 

Capasiti presennol yr ysgol yw 1085 o leoedd gan gynnwys y chweched dosbarth.   
Y nifer presennol o ddisgyblion yn yr ysgol yw 961 (11-16) a 286 (y chweched dosbarth). 

Mae 42 o leoedd yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar hyn o bryd. Y nifer presennol o ddisgyblion yn y ganolfan adnoddau yw 66 a'r cynnig yw cynyddu nifer y lleoedd i 66.

Nid oes unrhyw gynlluniau i newid polisi’r ysgol ar dderbyn plant i’r ysgol o ganlyniad i’r cynigion hyn.

Rheolir derbyniadau i’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol gan yr awdurdod lleol ac maent yn amodol ar ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) fel y bo’n briodol. 

Bydd derbyniadau i'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn parhau ar wahân i'r derbyniadau i'r brif ysgol a byddant yn ychwanegol at y Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC).

Gwneir unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod Lleol ar drafnidiaeth ysgol.

O fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 27 Gorffennaf 2022, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  

Dylid anfon gwrthwynebiadau at Gadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Rookwood Close, Llandaf, CF5 2NR.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at Gadeirydd y Llywodraethwyr drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Dylai unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.

Bydd y Corff Llywodraethu’n cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a gafwyd (sydd heb eu tynnu’n ôl yn ysgrifenedig) o fewn y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â’i ymateb ymhen 28 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod gwrthwynebu. 

Dyddiedig 30 Mehefin 2022
 
Kathryn Bates 
Cadeirydd y Llywodraethwyr  

Nodyn Esboniadol


(Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yn ysgol uwchradd wirfoddol a gynorthwyir Saesneg yn Llandaf.

Mae'r ysgol yn cynnal canolfan adnoddau arbenigol, Canolfan Marion, sydd wedi'i dynodi ar gyfer disgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig.

Er mwyn ateb y galw am leoedd yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr 11 - 19 oed ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig, cynigir cynyddu nifer dynodedig y lleoedd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Canolfan Marion o 42 i 66 o leoedd o fis Medi 2022. 

Y nifer presennol o ddisgyblion yn y ganolfan yw 66. 

Cynigir y byddai adeilad presennol y ganolfan adnoddau arbenigol yn cael ei wella a'i adnewyddu, gan greu ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu ychwanegol.

Yn ogystal â'r cynnydd arfaethedig yn y lleoedd dynodedig yn y ganolfan adnoddau arbenigol ar gyfer plant ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig yng Nghanolfan Marion, cynigiwyd lleoedd pellach ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth ac anhwylder sbectrwm awtistig mewn nifer o ysgolion o fewn ardal yr awdurdod lleol. 

DEDDF SAFONAU A THREFNIADAETH YSGOLION (CYMRU) 2013

DARPARIAETH ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL  

HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag Adran 42 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion,  fod Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (“y Corff Llywodraethu” o hyn ymlaen), ar ôl ymgynghori â’r bobl a ymddangosai’n briodol yn eu tyb hyw, yn cynnig newid Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Heol Pen-llin, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2XJ i:

  • Gynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth o 70 i 100 o lefydd


Cynigir gweithredu’r cynnig o fis Medi 2022. 

Mae'r ysgol yn ysgol Sefydledig ac mae'n cael ei chynnal gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd. 

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ran y Corff Llywodraethu cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.   Mae’r adroddiad ar yr ymgynghoriad sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion ac ymatebion y Corff Llywodraethu a barn Estyn ar y newidiadau arfaethedig ar gael i'w weld yma: 


Capasiti presennol yr ysgol yw 2400 o leoedd gan gynnwys y chweched dosbarth.     Nifer presennol y disgyblion yn yr ysgol yw 1984 (11 - 16) a 427 (Chweched Dosbarth).

Mae 70 o leoedd yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar hyn o bryd. Nifer y disgyblion yn y ganolfan adnoddau arbenigol ar hyn o bryd yw 95 .

Nid oes unrhyw gynlluniau i newid polisi’r ysgol ar dderbyn plant i’r ysgol o ganlyniad i’r cynigion hyn.

Rheolir derbyniadau i’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol gan yr awdurdod lleol ac maent yn amodol ar ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) fel y bo’n briodol. 

Bydd derbyniadau i'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn parhau ar wahân i'r derbyniadau i'r brif ysgol a byddant yn ychwanegol at y Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC).

Gwneir unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod Lleol ar drafnidiaeth ysgol.

O fewn 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 27 Gorffennaf  2022, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  

Gellir anfon gwrthwynebiadau at Gadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Heol Pen-llin, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 2XJ. 

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at Gadeirydd y Llywodraethwyr drwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol:  ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Dylai unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.

Bydd y Corff Llywodraethu’n cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a ddaeth i law o fewn y cyfnod gwrthwynebu (a sydd heb eu tynnu’n ôl yn ysgrifenedig), ynghyd ag ymateb y corff, ymhen 28 diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod gwrthwynebu. 

Dyddiedig  30 Mehefin 2022 

Llofnod:    Sian Hopkins 
      Cadeirydd y Llywodraethwyr  

Nodyn Esboniadol


(Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn ysgol Sefydledig cyfrwng Saesneg sydd wedi'i lleoli yn Yr Eglwys Newydd.

Mae'r ysgol yn cynnal Canolfan Adnoddau Arbenigol sydd wedi'i dynodi ar gyfer anghenion dysgu cymhleth.  

Er mwyn ateb y galw am leoedd yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer dysgwyr 11 - 19 oed sydd ag Anghenion Dysgu Cymhleth, cynigir cynyddu’r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol o 70 i 100 o leoedd o fis Medi 2022. 

Nifer y disgyblion yn y ganolfan yw 95

Cynigir y byddai adeilad presennol y ganolfan adnoddau arbenigol yn cael ei wella a'i adnewyddu, gan greu ystafelloedd dosbarth a mannau dysgu ychwanegol.  Mae rhywfaint o'r gwaith hwn eisoes wedi'i wneud er mwyn i'r ysgol, a'r Cyngor, allu sicrhau y byddai digon o leoedd ar gael i blant ag anghenion dysgu cymhleth.

Yn ogystal â’r cynnydd arfaethedig mewn lleoedd dynodedig yn y ganolfan adnoddau arbenigol, mae lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymhleth a chyflwr sbectrwm awtistig wedi eu cynnig ar gyfer nifer o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol.

Gellir gweld manylion y cynigion hyn a chopïau o'r hysbysiadau statudol yma (caerdydd.gov.uk) 




​​

© 2022 Cyngor Caerdydd