Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Penderfyniad ADY

​​

Ar 28 Medi 2022 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlyno:

  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98 o fis Medi 2022.
  • Cynyddu’r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Gynradd Marlborough i blant ag anghenion dysgu difrifol a chymhleth o 20 i 30 lle o fis Medi 2022. 
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Springwood ar gyfer dysgwyr â Chyflwr Sbectrwm Awtistig o 20 i 28 o fis Medi 2022.
  • Cynyddu’r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Canolfan Marion yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf o 42 i 66 o lefydd o fis Medi 2022.








Cyfarfodydd blaenorol​

Ar 14 Gorffennaf 2022 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlynol:

  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd ar gyfer plant oed cynradd ag Anghenion Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Moorland o fis Medi 2023 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 30 o leoedd ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth yn Ysgol Uwchradd Willows o fis Medi 2023
  • Cynyddu’r nifer dynodedig yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Uwchradd Llanisien i ddysgwyr â chyflwr y Sbectrwm Awtistig o 20 i 45 o leoedd o fis Medi 2022 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau â 30 o leoedd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ochr yn ochr â'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol presennol sydd â 30 o leoedd ar gyfer dysgwyr â chyflwr y Sbectrwm Awtistig o fis Medi 2023 
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn o 198 i 240 o fis Medi 2022
  • Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig The Hollies o 90 i 119 o fis Medi 2022; cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig The Hollies ymhellach o 119 i 150 o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Llanisien Fach ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth o 20 i 30 o leoedd o fis Medi 2023
  • Cynyddu'r nifer dynodedig yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Pentre-baen ar gyfer dysgwyr â Chyflwr y Sbectrwm Awtistig o 20 i 24 o leoedd o fis Medi 2022















Wnaeth y Cabinet hefyd ctuno i:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig The Court o 42 i 72 o leoedd.  Trosglwyddo’r ysgol i adeiladau newydd ar safle Ysgol Gynradd y Tyllgoed ac ar safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn Llanrhymni, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o fis Medi 2025. 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd o fis Medi 2022. 
  • Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol ag 20 o leoedd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain o fis Medi 2023.









​​

© 2022 Cyngor Caerdydd