Mae eich asesiadau a'r holl wybodaeth a chyngor a gynigiwn i chi am ddim. Mae cost unrhyw wasanaethau a gewch yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol benodol a’r gwasanaeth a ddarperir.
Beth os yw fy anghenion sylfaenol yn gysylltiedig â fy iechyd?
Nid oes rhaid i chi dalu am unrhyw wasanaethau a ddarperir gan y GIG. Os oes angen gofal nyrsio arnoch, gall nyrsys y GIG ddod i’ch cartref neu gartref gofal. Os oes angen i chi symud i gartref gofal sy’n darparu gofal nyrsio, bydd y GIG yn talu swm penodol ar gyfer rhan nyrsio ffioedd y cartref.
Os byddwch yn penderfynu cael gwasanaethau yn eich cartref, byddai’r GIG yn talu am eich gwasanaethau nyrsio, ond nid y costau cymorth cyffredinol.
Gwasanaethau yn y cartref
Bydd cost gwasanaethau yn eich cartref eich hun yn dibynnu ar lawer o bethau.
Yn gyffredinol, bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o gost eich gofal os yw eich cynilion neu gyfalaf (ac eithrio gwerth eich tŷ) yn uwch na swm penodol. Bydd cap ar faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu bob wythnos.
Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Ymweld yn rhoi gwybod i chi beth yw’r terfyn cyfalaf a’r gost wythnosol uchaf.
Cartrefi gofal
Yn gyffredinol, os yw eich cynilion neu gyfalaf (ac eithrio gwerth eich tŷ)
-
yn uwch na swm penodol, bydd yn rhaid i chi dalu cost eich gofal, gyda chap ar faint y byddwch yn ei dalu bob
wythnos.
-
yn is na’r terfyn cyfalaf, ac mai eich unig incwm yw Pensiwn y Wladwriaeth (a chredyd gwarant os yn berthnasol),
byddwch yn cael lwfans personol.
Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol neu Swyddog Ymweld yn rhoi gwybod i chi beth yw’r terfyn cyfalaf a’r gost wythnosol uchaf.
Beth os byddai’n well gennyf wneud fy nhrefniadau fy hun?
Mae’n well gan rai pobl wneud eu trefniadau eu hunain.
Os ydym yn ariannu eich gwasanaethau, mae’r
Cynllun Taliadau Uniongyrchol yn eich galluogi i wneud hyn a thalu eich staff gofal eich hun, a byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol.