Os oes gennych chi, neu eich gofalwr anghenion gofal neu gymorth na allwch eu bodloni heb cael help, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich sefyllfa.
Bydd angen i chi ymgymryd ag Asesiad Llesiant gan weithiwr cymdeithasol o’r adran Gwasanaethau Plant neu Oedolion, a fydd yn adnabod eich anghenion a'r ffordd orau i sicrhau y cânt eu bodloni.
Argymhellir Taliadau Uniongyrchol fel un o'r dulliau sy’n tyfu gyflymaf o ran bodloni canlyniadau pobl yng Nghymru, a’n nod ni yw sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu elwa arnynt.
Mae nifer o fuddion os byddwch yn dewis defnyddio Taliad Uniongyrchol:
- Byddwch yn ymwneud mwy â'r penderfyniadau sy’n effeithio ar eich bywyd.
-
Rhoddir rheolaeth o ddydd i ddydd dros yr arian a darpariaeth eich gofal i chi.
-
Mwy o hyblygrwydd a dewis, gan eich galluogi i brynu gofal sy’n fwy addas ar gyfer eich anghenion unigol.
-
Byddwch yn gwneud trefniadau yn uniongyrchol fel y bydd unrhyw un sy'n ymwneud â'ch gofal yn adrodd i chi.
-
Byddwch yn trefnu’r amserlen ar gyfer eich gofal.
Os ydych yn gymwys i gael Gofal a Chymorth gennym, bydd eich gweithiwr cymdeithasol sy’n eich asesu wedi trafod Taliad Uniongyrchol gyda chi. Bydd y drafodaeth hon wedi cynnwys y lefelau cymorth angenrheidiol.
Fel Derbyniwr Taliad Uniongyrchol Caerdydd rhoddir pecyn Cymorth Craidd i chi, y byddwn yn ei drefnu gyda’r darparwr cymorth. Bydd hyn yn rhoi cyngor a chymorth rheng flaen gan Ymgynghorwyr Taliadau Uniongyrchol ar sut i reoli Taliad Uniongyrchol yn ogystal â threfniadau wrth gefn a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Os ydych yn dymuno recriwtio cynorthwy-ydd personol, cewch eich cyfeirio wedyn at y darparwr cymorth ar gyfer Gosod Cyflogwyr a Recriwtio Cychwynnol. Bydd hyn yn eich galluogi i gychwyn y prosesau angenrheidiol i fod yn gyflogwr, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfraith cyflogaeth a'r camau sydd eu hangen i hysbysebu a recriwtio ar gyfer staff.
Gall rheoli arian, yn enwedig pan gaiff ei ddarparu ar ffurf cronfa gyhoeddus , fod yn dasg heriol, ond bydd y darparwr cymorth yn gallu’ch helpu.
- Gwasanaeth Cyflogres – Ar gyfer helpu i reoli'r gweithgareddau sylfaenol y tu ôl i gyflogi cynorthwywyr personol, asiantaethau a darparwyr eraill, gallwn drefnu gwasanaeth Cyflogres ar eich rhan. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu cymorth ar ffurf cyngor ariannol, templedi a ffurflenni i reoli'r gyflogres.
- Bancio a Reolir – Pe byddai’n well gennych beidio â rheoli'r cyllid y tu ôl i'ch Taliad Uniongyrchol, gall y darparwr cymorth hefyd weithredu fel asiant ar eich rhan chi. Darperir hyn drwy wasanaeth Bancio wedi'i Reoli y gallwn ei threfnu yn yr un modd.
Gall gweithwyr cymdeithasol werthuso'r dewisiadau cywir i chi drwy'r broses asesu llesiant a byddant yn gwneud yr atgyfeirio unwaith i benderfyniad gael ei wneud.
Am ragor o fanylion am sut y darperir y gwasanaethau hyn, gweler y llyfryn gwasanaethau.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda darparwr cymorth a aseiniwyd,
Canolfan Dewis ar gyfer Byw yn AnnibynnolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd, er mwyn sicrhau y caiff y sawl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol eu cefnogi trwy'r broses o reoli eu Taliad Uniongyrchol.
Mae ganddynt brofiad helaeth o weithio gyda Thaliadau Uniongyrchol a byw’n annibynnol, yn ogystal â hanes cryf o gefnogi’r rhai gydag anableddau.
Mae’r gwasanaeth a ddarperir gan Dewis yn rhad ac am ddim i dderbynwyr Taliadau Uniongyrchol ac mae iddo bum elfen allweddol (mae’n bosibl na fydd gofyn amdanynt i gyd).
- Cymorth Craidd - help a chyngor ar reoli Taliadau Uniongyrchol.
- Cyflogres – cymorth gweinyddol gyda rheoli’r gyflogres i gyflogeion.
- Bancio a Reolir – swyddogaeth gymorth gynhwysfawr er mwyn rheoli cyllid Taliadau Uniongyrchol ar ran y derbyniwr.
- Gosod Cyflogwyr – helpu derbynwyr i fod yn gyflogwyr i’w Cynorthwywyr Personol eu hunain.
- Recriwtio – help a chyngor wrth recriwtio er mwyn bodloni anghenion Gofal a Chymorth.