Os bydd argyfwng yng nghanol y ddinas neu ardal y bae, bydd negeseuon gan Heddlu De Cymru’n cael eu hanfon drwy’r dulliau cyfathrebu cydnabyddedig, gan ddweud wrthych pa maes a sector(au) yr effeithir arnynt a’r camau gweithredu priodol i’w cymryd.
Dilynwch y cyngor a roddir gan Heddlu De Cymru
Os bydd angen gwacáu’r ardal, rhowch eich cynlluniau wrth gefn ar waith, casglwch y staff at ei gilydd, a rhowch wybod iddynt pa gamau priodol sydd angen eu cymryd.
- gwrandewch ar rybuddion gan Heddlu De Cymru – peidiwch â chynhyrfu!
- ystyriwch yr effaith ar eich sefydliad a defnyddiwch unrhyw gynlluniau y gallwch fod wedi’u paratoi i’ch cynorthwyo i ymdrin â’r broblem
- gweithredwch ar y cyngor a roddir gan Heddlu De Cymru, cyflëwch eich bwriad drwy’ch sefydliad a sicrhewch fod pawb yn deall yn glir beth sydd angen ei wneud
Cofiwch – diogelwch yw’r ystyriaeth bwysicaf, felly:
- peidiwch â rhoi eich hun nac eraill mewn perygl pellach
- peidiwch â chymryd unrhyw risgiau diangen
- peidiwch â dychwelyd nes bod Heddlu De Cymru yn dweud ei bod hi’n ddiogel i chi wneud hynny
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â’r tîm rheoli argyfyngau.