Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor o 7am i 10pm ar ddiwrnod pleidlais. Fel arfer maent mewn adeiladau cyhoeddus megis ysgolion neu neuaddau lleol.
Dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio leolDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Gallwch fynd â’ch cerdyn pleidleisio â chi i ddangos pwy ydych chi, ond nid oes yn rhaid i chi wneud hyn.
Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.
Cewch bapur pleidleisio sydd â rhestr o’r bobl, y pleidiau neu’r opsiynau eraill y gallwch bleidleisio drostynt.
Mae rhagor o wybodaeth am bleidleisioDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar wefan y llywodraeth ganolog.
Noder
Mae’r
dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost i Etholiad Cyffredinol y DU 2017
wedi mynd heibio.
Pleidleisio drwy’r Post
Gall unrhyw un ofyn i bleidleisio drwy’r post yn hytrach na mynd i orsaf bleidleisio, ar yr amod eich bod ar y gofrestr etholiadol.
Gwneud cais am bleidlais drwy’r post
Os nad oes gennych argraffydd, cysylltwch â ni a byddwn yn anfon ffurflen atoch.
Sicrhewch eich bod yn nodi’ch dyddiad geni a’ch bod yn llofnodi’r ffurflen. Dyma fydd eich rhif adnabod personol a bydd yn cael ei wirio’n electronig yn erbyn eich pleidlais drwy’r post mewn etholiadau i atal twyll.
Pleidlais drwy ddirprwy
Ystyr pleidlais drwy ddirprwy yw penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar Ddiwrnod yr Etholiad.
I bleidleisio drwy ddirprwy, bydd angen i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio a bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gywir i’ch amgylchiadau.
Gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwyDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Dychwelwch y ceisiadau ar gyfer pleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy wedi’u cwblhau i:
Gwasanaethau Etholiadol
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Cysylltwch â ni