Mae Llywodraeth San Steffan wedi pasio deddf fydd yn newid y ffordd rydyn ni'n pleidleisio yn Etholiad San Steffan a’r Etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gelwir y ddeddf hon yn Ddeddf Etholiadau 2022.
Nid yw'r ddeddf hon yn berthnasol i Etholiadau’r Senedd, Cyngor Caerdydd na’r Cynghorau Cymuned. Llywodraeth Cymru sy'n gosod y ddeddfwriaeth ar gyfer y rhain.
Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
O fis Mai 2023, bydd angen i chi ddangos llun adnabod cymeradwy mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiadau San Steffan a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Pa lun ID allwch ei ddefnyddio
Rhaid i’r ddogfen â llun fod yn un gymeradwy, fel pasbort neu drwydded yrru.
Dim ond dogfennau gwreiddiol sy'n cael eu derbyn. Ni dderbynnir delweddau neu gopïau wedi'u sganio.
Os yw'ch cerdyn adnabod â llun wedi dod i ben, fe'i derbynnir cyn belled â bod y llun yn dal yn ymdebygu i chi.
Mae'r ffurfiau adnabod mwayf derbyniol ac a dderbynnir amlaf yn cynnwys:
- Pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwlad â statws AEE neu wlad yn y Gymanwlad.
- Trwydded yrru ffotograffig a gyhoeddwyd gan y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE neu wlad yn y Gymanwlad
- Cerdyn adnabod ffotograffig yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- Cerdyn adnabod ag arno hologram y Cynllun Prawf Oed Safonol (cerdyn PASS)
- Bathodyn Glas
- Pàs Bws Person Hŷn
- Pàs Bws i Berson Anabl
- Cerdyn Oyster 60+
Neu gallwch gysylltu â'n tîm Gwasanaethau Etholiadol am help.
Beth i'w wneud os nad oes gennych gerdyn ID â llun cymeradwy?
Os nad oes gennych gerdyn adnabod cymeradwy, bydd angen i chi wneud cais am 'Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr' (TAP) am ddim.
Ar ôl i chi dderbyn eich TAP, ni fydd dyddiad dod i ben arno. Fodd bynnag, cynghorir eich bod yn adnewyddu eich TAP mewn 10 mlynedd i sicrhau bod y llun yn parhau i ddangos gwir debygrwydd i chi.
Y dyddiad cau i wneud cais am TAP fydd 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad.
Yr etholiad nesaf sydd wedi’i gofrestru yng Nghaerdydd lle bydd angen dangos dogfen adnabod â llun neu TAP i bleidleisio, fydd yr etholiad ar gyfer y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024.
Pleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy
O fis Mai 2024, dim ond 6 pleidlais bost y cewch chi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio.Mae hyn yn cynnwys eich pleidlais chi eich hun.
Os byddwch yn cyflwyno mwy na 6 pleidlais bost, bydd eich pleidlais yn dal i gael ei chyfrif, ond bydd yr holl bleidleisiau eraill yn cael eu gwrthod.
Os ydych chi'n ymgyrchydd gwleidyddol, rydych chi hefyd wedi'ch gwahardd rhag delio â phleidleisiau post, oni bai:
- Am eich pleidlais chi eich hun,
- bod y bleidlais gan aelodau teulu agos, neu
- mae'r bleidlais gan rywun rydych chi'n gofalu amdano.
Os ydych yn cyflwyno pleidleisiau post, bydd angen i chi lenwi ffurflen 'cyflwyno dogfennau pleidleisio drwy'r post' yn yr orsaf bleidleisio neu swyddfa'r cyngor.
Wrth lenwi'r ffurflen, bydd angen i chi gynnwys:
- eich enw,
- eich cyfeiriad, a
- y rheswm rydych chi'n cyflwyno pleidleisiau post pobl eraill.
Bydd eich pleidleisiau post yn cael eu gwrthod os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen yn iawn, neu’n foddhaol yn nhyb y swyddog awdurdodi. Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau sy'n cael eu cyflwyno i'r swyddog canlyniadau yn Neuadd y Sir.
Ni fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif os byddwch yn ei chyflwyno mewn unrhyw gyfeiriad arall, er enghraifft, un o'n Hybiau.
Mae'r gofynion cyfrinachedd mewn gorsaf bleidleisio hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau post neu drwy ddirprwy.
Mae’n drosedd:
- darganfod sut mae rhywun arall wedi pleidleisio, neu
- dweud wrth bobl eraill sut mae rhywun wedi pleidleisio.
Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u cerdyn adnabod â llun eu hunain. Os nad oes ganddynt gerdyn adnabod â llun, ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.
Newidiadau i’r system etholiadol
Cysylltu â ni
Os oes angen help arnoch gyda'ch cais, cysylltwch â ni:
Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 263, Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
E-bost: gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 2088