Rhaid i chi gofrestru i allu pleidleisio yn Etholiadau a Refferenda'r Deyrnas Unedig.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol i gofrestru i bleidleisio::
- eich enw llawn,
- eich cyfeiriad post llawn,
- eich rhif yswiriant gwladol,
- eich dyddiad geni
Gwnewch yn siŵr bod gennych y rhain wrth law pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio.
Os na allwch ddarparu unrhyw un o'r manylion hyn am unrhyw reswm, efallai y bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.
Dylech chi gael cadarnhad ar ôl gwneud cais am gofrestru.
Ydw i wedi fy nghofrestru i bleidleisio?
Os nad ydych yn sicr os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd