Rhoddir caniatâd gan y Cyngor i ddefnyddio’r Briffordd Gyhoeddus ar gyfer Hysbysfyrddau / Ffensio Heras drwy gyflwyno trwyddedau fel yr Awdurdod Priffyrdd dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
Mae eitemau a osodir ar y briffordd heb drwydded ddilys yn rhwystr anghyfreithlon a gall y Cyngor gymryd camau gorfodi mewn achosion o’r fath.
Cosb am anwybyddu
Bydd camau gweithredu yn arwain at Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 ynghyd â chost y drwydded. Mewn amgylchiadau pan nad yw busnesau’n cydymffurfio, mae’n bosibl y byddwn yn symud yr hysbysfyrddau / ffensio heras oddi ar y briffordd gyhoeddus.
Yn ogystal, byddwn yn gorfodi Hysbysiad Cosb Benodedig o hyd at £100 os na lynir at y Telerau ac Amodau.
Cyfarwyddwr y cwmni neu’r swyddog awdurdodedig sy’n gyfrifol am sicrhau y dilynir y Telerau ac Amodau yn llawn.
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais awgrymwn eich bod yn darllen y Telerau ac Amodau
Gallwch chi wneud cais am drwydded palis ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd . Efallai y bydd angen i chi greu cyfrif yn gyntaf.
Oriau Agor
Dydd Llun i Ddydd Iau: 8.30am - 5pm
Dydd Gwener : 8.30am - 4pm
Beth yw pris y Drwydded?
Trwydded Breswyl fesul stryd:
Annedd preswyl unigol Trwydded 28 Diwrnod £105
Rhaid gwneud cais am adnewyddu £100 am 28 diwrnod pellach 7 diwrnod cyn dyddiad terfyn y drwydded
Trwydded Fasnachol fesul stryd:
Trwydded Annomestig 28 Diwrnod £325 Rhaid gwneud cais am adnewyddu £275 am 28 diwrnod pellach 7 diwrnod cyn dyddiad terfyn y drwydded
Beth sy'n Digwydd Nesaf?
Unwaith y derbynnir cais caiff ei asesu gan ein Swyddogion Priffyrdd ac fe drefnir ymweliad â’r safle os bydd angen. Ar yr ymweliad safle mae’n bosib y bydd yr arolygydd priffyrdd yn cytuno i amodau ychwanegol/diwygiedig, caiff y rhain eu cadarnhau yn ysgrifenedig wrth gymeradwyo’r cais.
Os caiff y cais ei gymeradwyo bydd swyddog cyllid yn cysylltu â chi i drefnu taliad cerdyn Debyd/Credyd.
Os yw’r cais yn aflwyddiannus, bydd Cyngor Caerdydd yn cysylltu â chi i roi’r rhesymau dros wrthod y cais yn yr achos hwn.