Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Parcio gyda bathodyn glas

Cyfrifoldeb deiliad y bathodyn neu’r gwarcheidwad yw sicrhau bod y bathodyn glas yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.

Rydym yn argymell yn gryf fod y bathodyn yn aros gyda deiliad y bathodyn pan nad yw'n cael ei ddefnyddio. Peidiwch â'i adael mewn cerbyd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio'r cerbyd yn rheolaidd.

Rydym ni'n cynnal gorfodi bathodynnau glas yn effeithiol. Os canfyddir eich bod yn camddefnyddio'r bathodyn, gallwch gael eich erlyn.

Sut i arddangos eich bathodyn


Rhaid i'ch bathodyn fod ar ddashfwrdd neu banel blaen eich car. Rhaid i'r manylion fod yn weladwy drwy'r ffenestr flaen. 

Os ydych chi'n parcio rhywle gyda chyfyngiad amser, rhaid i chi roi cloc parcio gyda’r bathodyn i ddangos eich amser cyrraedd. 

Efallai y cewch docyn parcio os byddwch yn eu harddangos yn anghywir. 

Ble allwch chi barcio


Gallwch ddefnyddio’ch bathodyn glas i barcio am ba hyd bynnag sydd ei angen yn y mannau canlynol: 

  • parcio talu ac arddangos ar y stryd 
  • meysydd parcio’r cyngor
  • mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas


Gallwch barcio am hyd at 3 awr gyda'ch cloc parcio: 

  • mewn mannau parcio i breswylwyr
  • ar linellau melyn dwbl
  • linellau melyn sengl


Gallwch barcio am ddim y tu allan i’r oriau rheoledig. 

Rhaid i chi ddarllen arwyddion maes parcio i gael gwybodaeth am ffioedd, cyfyngiadau amser a rheolau arbennig ar gyfer deiliaid bathodyn glas, neu waharddiadau llwytho. 

Parcio digwyddiadau


Yn ystod digwyddiadau yng nghanol y ddinas, gallwch ddefnyddio'r mannau parcio ar y stryd sydd ar gael. Mae taliadau'n berthnasol wrth barcio yng Ngerddi Sophia neu'r Ganolfan Ddinesig. 

Defnyddio eich bathodyn glas dramor


Darganfyddwch reolau gwledydd eraill ar ddefnyddio eich bathodyn glas cyn i chi ymweld. ​

​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd